Cymry Cymraeg: Jess Roberts

Cymry Cymraeg: Jess Roberts

Mae Jess Roberts o Rydaman yn dyst i’r buddioldeb sydd gallu dod o gamu tu allan i'ch parth cysur.

Rhannu:

Y pandemig a gyflymodd ei hangen i weld pa mor bell y gallai fynd yn ei gyrfa rygbi. Roedd y mewnwr 26 oed wedi helpu Menywod Barnsley (y clwb a wnaeth cymaint i’w helpu i ymgartrefu yn ei bywyd newydd yn Swydd Efrog) i hyrwyddiadau olynol, ond y llynedd gwelwyd daliant i’r gêm – oni bai am y lefel elitaidd y gêm.

“Roeddwn i dal eisiau chwarae rygbi er gwaethaf lockdown, ac roedd ymuno â Sale ym mis Medi yn gyfle gwych i mi,” meddai. “Roeddwn i’n caru chwarae dros Barnsley, ond am ychydig flynyddoedd roeddwn i’n tybed os o’n i allu cyflawni fwy yn y gêm – ond ni chefais i gyfle i neud ‘ny. Roeddwn i eisiau gweld a allwn i gystadlu ar y lefel uchaf.”

Cymry Cymraeg: Jess Roberts

Jess yn cynrychioli Sale Sharks yn Uwch Gynghrair Lloegr. (Llun: Ickledot)

Unwaith iddi hi dal sylw’r hyfforddwyr, cynyddodd ei hyder gan gychwyn gêm ar ôl gêm yn y crys rhif naw. Arweiniodd hyn at brif hyfforddwr newydd Menywod Cymru, Warren Abrahams, yn rhoi cap cyntaf i Roberts yn erbyn Ffrainc dros y penwythnos diwethaf.

Er gwaethaf y profiad gostyngedig yn Vannes, dyw’r canlyniad ddim yn siomi Roberts. Wedi’r cyfan, fel y dywedodd Abrahams ar ôl y gêm, dyma ddechrau siwrne newydd i’w dîm. “Rwy’n gwybod roedd y canlyniad ddim yn un wych ond fwynheais i bob munud, i fod yn onest, er roedden ni ar y droed gefn,” mae’n cyfaddef. “Mae’r profiad o chwarae dros eich gwlad yn un mor emosiynol. Mae’n drueni am y canlyniad, ond rydyn ni i gyd yn gweithio mor galed i allu gwneud hyn.”

Cymry Cymraeg: Jess Roberts

Ymosod y llinell amddiffynnol Ffrainc ar ddydd Sadwrn yn y Chwe Gwlad.

Yn wir, mae Roberts, fel rhai o’i gyd-chwaraewyr o Ogledd Cymru, wedi bod yn teitho tua wyth awr yn rheolaidd i ymarfer yn y Fro yn y cyfnod cyn y Chwe Gwlad. Yn aml, i Roberts, mae hyn yn golygu cyrraedd adref yn Barnsley yn oriau mân y bore, cyn codi am hanner awr wedi chwech i weithio fel goruchwyliwr cyflenwi yn Ysgol Gynradd Academi Parkside.

Er bod 260 filltir yn gwahanu Rhydaman a Barnsley, mae yna debygrwydd diwylliannol a diwydiannol rhwng y ddwy dref. “Allwn i ddim credu pa mor debyg mae’r ddau,” meddai Roberts. “Maen nhw’n drefi glo ac mae’r bobl yn gyfeillgar iawn. Pan ddwi’n siarad â thad-cu fy mhartner Alix am ei fywyd lawr yn y pwll, mae fel fy mod i’n siarad â fy nhaid.”

Mae’n ymddangos y bydd y cysylltiad Eingl-Gymreig yn cryfhau. Nid yn unig y mae Roberts wedi cyflwyno’r Gymraeg i gwricwlwm Parkside, ond mae hi hefyd yn gallu defnyddio’r iaith yn Sale Sharks gyda’i gyd-chwaraewyr Molly Kelly, Gwenllian Pyrs a Teleri Wyn-Davies.

Wedi ei fagu gyda’r Gymraeg fel ei hiaith gyntaf, mynychodd Roberts Ysgol Dyffryn Aman, a oedd yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Yno cafodd Roberts ei blas cyntaf o rygbi (saith bob ochr), ond nid cyn mwynhau cyflawniadau nodedig mewn hoci a phêl-droed. Mae hi’n credu bod yr amlygiad i fwy nag un chwaraeon yn amhrisiadwy i bobl ifanc.

Cymry Cymraeg: Jess Roberts

Tîm hoci Ysgol Dyffryn Aman, lle'r oedd Hannah Jones (is-gapten Cymru) yn gyd-chwaraewr.

“Fe wnes i chwarae hoci dros Dde Orllewin Cymru, a fy nod cychwynnol oedd ennill lle mewn carfan Cymru, ond yna wnes i ddarganfod fy nghariad dros rygbi. Chwaraeais bêl-droed dros Gochion Llanelli a Gorllewin Cymru hefyd. Mae’r chwaraeon hynny yn dysgu ymwybyddiaeth o leoliad ar y cae sy’n drosglwyddadwy iawn, ac mae chwarae mewn amgylchedd tîm yn rhoi hyder i chi o amgylch gwahanol fathau o bobl.”

O Ddyffryn Aman, cymerodd Roberts ei rygbi i’r lefel nesaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, y pwerdy rygbi hanesyddol. Ymddangosodd ei thîm dwywaith yn rownd derfynol BUCS yn Twickenham – gydag un fuddugoliaeth ac un golled. (Yn 2019, nododd Roberts ei dychweliad i Twickenham gyda chais yn y fuddugoliaeth Swydd Efrog yn y Bencampwriaeth Sirol, gan drechu Sussex.)

“Treuliais i fach o amser yn garfan genedlaethol Cymru’ pan o’n i’n 18 oed, ond roeddwn i’n mwynhau ochr gymdeithasol y brifysgol cryn dipyn pryd ‘ny, felly doeddwn i ddim yn cymryd fy rygbi o ddifrif. Doeddwn i ddim yn meddwl bod gen i ddigon o amser i wneud y ddau.”

Ar ôl esgyniad cyflym o rygbi elitaidd i anrhydeddau rhyngwladol, mae’n ymddangos bod Roberts yn gwneud y mwyaf o’r ail gyfle sydd ganddi yn y crys coch.