Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Chwaraeodd Kevin Morgan ran allweddol ar y cae mewn nifer o ymgyrchoedd cyffrous yn ei gyrfa, ond heddiw mae’n cael yr un maint o foddhad y tu ôl i’r llenni.

Rhannu:

Fel hyfforddwr perfformiad athletau’r tîm cyntaf Bryste, sydd ar frig yr Uwch Gynghrair Lloegr, mae cyn-gefnwr Pontypridd bellach yn helpu chwaraewyr y clwb i gyrraedd uchelfannau newydd.

“Mae yna fwrlwm enfawr o amgylch y clwb ar hyn o bryd,” meddai’r dyn a gafodd ei ystyried ar un adeg gan Steve Hansen fel un o’r cefnwyr gorau yn y byd. “Ymunais â’r clwb hanner ffordd trwy dymor cyntaf Bryste yn ôl yn yr Uwch Gynghrair, ond yn syth nid oedd y thema yn ymwneud ag aros i fyny: y cwestiwn oedd ‘pa mor bell allwn ni orffen lan y bwrdd?’ Mae pethau wedi mynd ymlaen ac ymlaen ers hynny.”

Yn enwedig gan ystyried ei rôl, mae Morgan wedi ei wefreiddio gan Ganolfan Perfformiad Uchel yr Eirth, sef y cyfleuster hyfforddi newydd sbon yn Abbots Leigh. “Mae’n bleser mynd i weithio fynna bob dydd,” meddai.

Ar ôl mwy na degawd yn gweithio yn yr amgylchedd perfformiad uchel – bron i gyd gyda’r Gweilch – mae Morgan mewn sefyllfa well na’r mwyafrif i asesu pa mor bell y mae’r gêm wedi dod ymlaen ers iddo ddechrau chwarae.

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Morgan yn ymosod yn fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad 2007.

“Y flwyddyn es i o rygbi ieuenctid i rygbi hŷn oedd y flwyddyn aeth y gêm yn broffesiynol yn 1996,” cofia Morgan, a wnaeth hefyd cynrychioli’r Dreigiau ac Abertawe. “Roeddwn i yn y brifysgol yn gwneud gradd mewn electroneg ar y pryd. Roedd fy addysg mor bell i ffwrdd o Gryfder a Chyflyru [S&C] â phosibl, ond roedd gen i ddiddordeb mawr ynddo ac roeddwn i’n teimlo bod hi’n llwybr posib i fynd i lawr ar ôl i mi ymddeol.

“Gan ddod tuag at ddiwedd fy ngyrfa, fe wnes i radd Meistr rhan-amser mewn Ffisioleg er mwyn cael cymhwyster academaidd.” Yn ei flwyddyn olaf ar y cae, roedd ganddo rôl ddeuol fel chwaraewr/hyfforddwr ffitrwydd gyda Chastell-nedd, cyn i’r cyfle ddod i fyny gyda’r Gweilch, lle’r oedd ei chyn-hyfforddwr ffitrwydd Chymru, Mark Bennett, yn chwilio am rywun i ymuno â’i dîm.

“Ar hyn o bryd mae gen i rôl ddeuol gyda Bryste, lle rydw i’n canolbwyntio ar adferiad y bechgyn sydd wedi’u hanafu, yn ogystal â gofalu am S&C y cefnwyr,” mae e’n esbonio.

Mae gweithio ar ddwy ochr y sbectrwm – gyda chwaraewyr sydd naill ai’n ffit i chwarae, neu’n brwydro i ddychwelyd i’r cae – yn her ysgogol iddo. “Pan fydd rhywun yn cael eu hanafu rwy’n gofalu amdanyn nhw o gyfnod eu hanaf tan iddyn nhw fod yn barod i chwarae ‘to. Rwy wedi bod yn chwaraewr proffesiynol, felly mae gen i fewnwelediad i beth mae e fel i fod mas ar y cae yn chwarae yn rheolaidd, ond hefyd chael fy anafu’n rheolaidd. Mae’n werth chweil pan rydych chi’n helpu rhywun i ddychwelyd i chwarae ar ôl sbel hir mas.”

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Treuliodd Morgan ddegawd fel hyfforddwr ffitrwydd gyda'r Gweilch.

Dywed y gall y cyfnod adfer fod yn her seicolegol yn ogystal â chorfforol. “Mae yna berygl y gall chwaraewyr ag anafiadau tymor hir deimlo eu bod nhw ar wahân i weddill y tîm os nad ydyn nhw’n hyfforddi neu mewn cyfarfodydd gyda nhw bob dydd. Mae ganddyn nhw raglen ymarfer lawer fwy unigol, felly gall fod yn anodd yn seicolegol oherwydd bod rygbi yn gêm tîm. Dyna ran o be ni’n neud: sicrhau bod cyfnodau pan maen nhw yn y gampfa gydag eraill, neu’n gwneud sgiliau gyda’u cyd-chwaraewyr, fel dydyn nhw ddim yn teimlo tu allan i bethau.

“Dwi ddim yn credu bod llawer o bobl yn deall faint o waith ac amser mae’r chwaraewyr yn rhoi mewn pob dydd. Dyw nhw ddim jyst yn hyfforddi tair neu bedair awr y dydd, mae ‘na gymaint o waith i’w wneud o gwmpas ‘na: tactegau, cyfarfodydd, dadansoddi, bwyta’n dda, adfer yn dda. O ran ymroddiad a pharatoi, mae’n gêm hollol wahanol i pan oeddwn i’n chwarae. Roeddwn i’n ffodus fy mod i wedi gallu profi’r ochr amatur pan oedden ni gallu treulio mwy amser yn cymdeithasu ac adeiladu perthnasoedd gyda fy nghyd-chwaraewyr.”

Mae gan Morgan 48 o gapiau Cymru a sawl clod i’w enw o yrfa a barhaodd am 14 mlynedd, ond mae e’n awgrymu mai ef yw’r person olaf fydd eisiau cynnig cyngor y tu allan i’w arbenigedd. “Maen nhw’n cael gymaint o wybodaeth o’r hyfforddwyr y dyddiau ‘ma, fyddwn i ddim eisiau gorlwytho nhw â mwy,” meddai. “Efallai bod y ffordd wnes i chwarae’r gêm yn hollol wahanol i’r ffordd mae’r chwaraewyr nawr yn ei chwarae, neu’r ffordd y gwnaeth y prif hyfforddwr neu’r hyfforddwr sgiliau ei chwarae.

“Ond wedi dweud ‘ny, rwy’n deall y pwysau o fod yn chwaraewr rygbi. Rwy bob amser ar gael am sgwrs, am sut y gall y bois reoli eu hunain yn ddyddiol – yn gorfforol ac yn seicolegol.”

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Sgoriodd Morgan mwy o geisiau nag unrhyw chwaraewr arall yn y Gynghrair Geltaidd yn 2004/05.

Felly nid yw’n teimlo bod angen atgoffa’r chwaraewyr mai ef sgoriodd y nifer mwyaf o ceisiau yn y Gynghrair Geltaidd yn 04/05? “Rwy’n atgoffa nhw bob dydd,” mae e’n chwerthin. “Rwy’n sôn am y Gamp Lawn eitha lot hefyd, yn enwedig gyda Chymru’n perfformio mor dda yn ddiweddar. Mae rhai o’r bois Lloegr wedi cael digon!”

Er yr holl effaith arloesol y cafodd yng Nghymru, heb sôn am rôl allweddol Morgan yn yr ymgyrch, ni newidiodd y Gamp Lawn 2005 ei fywyd.

“Doedd cyfryngau cymdeithasol ddim mor gyffredin bryd hynny, a doedd chwaraeon ddim dan y microsgop gymaint ac mae e nawr. Mewn ffordd, rwy’n falch taw dyna sut oedd e – o’n i allu dianc popeth oherwydd doedd e ddim yn eich wyneb gymaint.

“Ar ôl i ni guro Iwerddon, a’r holl ddathliadau dilynodd hynny, roeddwn i nôl yn chwarae i’r Dreigiau’r wythnos wedyn.”

Os cyflawnodd freuddwyd wrth ennill Camp Lawn dros ei wlad, un annhebygol oedd hi i’r bachgen a gafodd ei fagu ym mhentref Cilfynydd, tua milltir i fyny’r ffordd o Bontypridd. “Pan ych chi’n ifanc, yn gwylio’r hen Bum Gwlad, gyd chi moen wneud yw chwarae dros Gymru. Ond dydych chi byth yn meddwl bod e mynd i ddigwydd. Dechreuais allan yn chwarae i’r ysgol, wedyn ieuenctid, wedyn dyna fi’n i’n chwarae i’r tîm lleol gyda fy arwyr. Yna, yn sydyn iawn dwi’n cael fy enwi yn garfan Cymru. Doedd yna erioed unrhyw gynllun tymor hir. Roedd un peth bob amser yn arwain at un arall.”

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Cynrychioli Pontypridd yn erbyn Caerfaddon yn 1996 - y flwyddyn gyntaf i'r gêm mynd yn broffesiynol.

Roedd yn rhan o dîm serennog Ysgolion Pontypridd, gyda chwaraewyr fel Martyn Williams a Lee Jarvis, a enillodd y Darian Dewar. Er nad oedd ei rieni yn siaradwyr Cymraeg, mae Morgan yn falch eu bod wedi dewis rhoi addysg Gymraeg iddo: yn gyntaf yn Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton, yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen (bellach Garth Olwg).

“Er roeddwn i’n byw tua 15 metr o’r ysgol Saesneg yng Nghilfynydd, roedden nhw am anfon fi i Pontsionnorton, ychydig filltiroedd i ffwrdd. Wnes i erioed ofyn pam, ond rydw i mor hapus a ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Yn ffodus, rydw i wedi cadw’r iaith ac yn ei siarad gyda chryn dipyn o fois Cymreig ym Mryste.”

Ac mae yna nifer ohonynt, yn cynnwys y blaenasgellwr Dan Thomas, Rheolwr yr Academi Gethin Watts, a’r brodyr Lloyd, Ioan a Jac. “Rydyn ni bob amser yn gwneud pwynt o siarad Cymraeg â’n gilydd,” meddai Morgan. “Mae’n fuddiol dros ben i mi oherwydd mae llawer o’r bois yma yn dod o deuluoedd lle Cymraeg yw’r iaith gyntaf, ond dydw i ddim. Mae’n golygu fy mod i allu cadw’r iaith, sy’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi.”

Cymry Cymraeg: Kevin Morgan

Croesi am gais i'r Rhyfelwyr Celtaidd yn erbyn Perpignan yn 2003.