Cymry Cymraeg: Manon Johnes
Chwaraewyr cysylltiedig
Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Manon Johnes, 19 oed o Gaerdydd, ond mae hi eisoes wedi cyflawni mwy na digon am rywun o'i hoedran.
Nid yn unig ennillodd hi ei chap cyntaf yn 17 oed – yn y fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica ddiwedd 2018 – ond mae ganddi bellach radd israddedig Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen i edrych ymlaen ati.
Roedd cydnabyddiaeth ryngwladol yn ei harddegau ac ymrestru yn y brifysgol fwyaf mawreddog yn y byd i fod digwydd naill ochr i’w blwyddyn allan a dreuliwyd yn teithio’r byd, ond yn anffodus ni ddaeth hynny i’r amlwg.
“Fydd y teithio ddim yn digwydd oherwydd y cyfyngiadau, ond rydw i’n cadw’n brysur,” meddai’r blaenasgellwr talentog. A chadw’n brysur mae hi’n neud, gan weithio fel athrawes gynorthwyol yn Ysgol Gwaelod y Garth ar gyrion y ddinas.
Mae gofalu ar ôl plant gweithwyr allweddol wedi bod yn hwyl: “Mae yna rywbeth gwahanol i’w wneud bob dydd. Mae gennym ni lai na 10 o blant. Rydw i wedi bod yn chwarae yn y gôl y deuddydd diwethaf, neu’n chwarae gyda mwd.
“Sai’n bwriadu bod yn athrawes yn y dyfodol ond mae’n gweithio’n dda gyda’r rygbi: 9yb-3yp, heb unrhyw waith y tu allan i’r dosbarth.”
Os nad yw chwarae’r golgeidwad yn ei chadw’n heini, yn sicr mae’r holl hyfforddiant ffitrwydd wedi. Mae chwaraewyr Cymru yn cael eu profi bob pum wythnos ar draws disgyblaethau ffitrwydd amrywiol. “Rwy’n teimlo fy mod i’n ymarfer mwy nag erioed oherwydd bod hi’n ffordd dda o lenwi’r amser,” meddai. “Does dim wir esgusodion i beidio â ymarfer.”
Mae ei chlwb, Bristol Bears, hefyd yn diddanu Manon a’i gyd-chwaraewyr. “Mae gennym ni fath o ‘Lockdown Games’ lle mae’r clwb yn gosod heriau gwahanol bob wythnos,” esboniodd, gyda heriau yn gynnwys ail-greu fideos cerddoriaeth. “Mae ‘na gystadleuaeth rhwng y menywod a’r dynion, gyda gwobr i’w hennill bob wythnos.”
Mae Manon wedi arfer cystadlu â’r bechgyn. Hi oedd yr unig ferch ar y tîm yn CRICC, adran iau Cwins Caerdydd (tîm y byddai hefyd yn mynd ymlaen i’w chynrychioli). Gan ei bod yn amlwg o oedran ifanc bod Manon yn ddwli ar chwaraeon, roedd Glantaf yn ysgol uwchradd addas dros ben iddi hi.
Er mai hi yw’r unig ferch yn ddiweddar o’r ysgol i gynrychioli Cymru mewn rygbi, mae Megan Jones, sydd ychydig flynyddoedd yn hŷn, yn chwarae i Loegr. “Rwy wedi cwrdd â hi cwpl o weithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Manon. “Roedd hi mas yn Awstralia pan aethon ni yno gyda Chymru Saith-Bob-Ochr i gystadlu cyn Gemau’r Gymanwlad.”
Fodd bynnag, athletwr rhyngwladol o gêm wahanol sydd wedi bod yr ysbrydoliaeth fwyaf iddi hi. Ei hathro Addysg Gorfforol yn Glantaf oedd cyn-bêl-droediwr Cymru, Gwennan Harries. “Mae hi wedi bod yn aruthrol i mi, fy nylanwad mwyaf heb amheuaeth,” meddai Manon. “Yn yr ysgol, fel arfer dim ond bechgyn yr academi fyddai’n codi pwysau yn y gampfa, ond wnaeth Gwennan annog i mi fynd i mewn yno yn y boreau. Rwy’n dal i gadw cyswllt â hi yn wythnosol, ac mae hi’n fwy o ffrind nag athro nawr.”
Yn amlwg mae Manon yn hoffi cadw’n brysur: mae hi wedi bod yn hyfforddi tîm rygbi’r merched yng Nglantaf dros y tair blynedd diwethaf. Efallai bod gwneud hynny yn cadw ei holl gyflawniadau mewn persbectif.
“Pan chi’n hyfforddi ac yn chwarae trwy gydol y tymor, does gennych chi ddim amser i fyfyrio ar bethau,” meddai. “Ond mae’r argyfwng presennol wedi caniatáu imi wneud hynny mewn ffordd. Rwy’n gwybod bod cymaint dwi eisiau gyflawni yn y gêm.
“O’n i’n chwarae fel eilydd lot eleni a chefais gwpl o anafiadau. Fy nod nawr yw sefydlu fy hun yn nhîm Cymru a pharhau i wella fel chwaraewr, yn ogystal â chadw’r cydbwysedd â bywyd a’r brifysgol.”
Yn amlwg mae hi’n cydnabod y pwysigrwydd o ddod o hyd i’r cydbwysedd hwnnw, gyda 2021 yn debyg mynd i weld hi’n treulio’i amser rhwng Bryste, Cymru a Rhydychen. “Rwy’n chwarae fy rygbi gorau pan rydw i’n hapus, ac rydw i’n hapus pan rydw i’n canolbwyntio ar bob agwedd o fy mywyd yn hytrach na’r gêm yn unig.”