Cymry Cymraeg: Mathew Bowen
“Dwi’n dod o pentre bach o’r enw Login,” meddai Mathew Bowen, un o brif aelodau tîm meddygol y Gweilch. “Does neb yn credu fi bod y lle yn bodoli!”
Ar ôl ymgynghori â Google am sbel fach, mae’n ymddangos bod Login yn bentref go-iawn wedi’r cyfan: yn Sir Gaerfyrddin, gyda hanes lliwgar sy’n cynnwys cartrefi rhai aelodau Merched Beca.
Mae Bowen, 28 oed, yn bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond mae ei wreiddiau Gorllewinol yn gryf. “Roedd Mamgu a Tadcu yn ffermwyr yn Sanclêr, a thyfes i lan fynna o deg mlwydd oed tan goleg.”
Bu Bowen yn yr un dosbarth a mewnwr Cymru a’r Saraseniaid, Aled Davies, yn Ysgol Bro Myrddin, a chwaraeodd y ddau dros Hendy-gwyn. Ond yn ei arddegau hwyr, sylweddolodd Bowen ei bod yn well gyda’r pêl-droed.
Yn gyd-ddigwyddiadol, trwy bêl-droed gafodd Bowen ei phrofiad cyntaf o chwaraeon elitaidd. “Ar ôl i fi raddio o Brifysgol Caerdydd yn 2013, ges i swydd rhan amser gyda Cardiff City,” meddai Bowen, a oedd wedi mwynhau lleoliad gyda’r Bluebirds o’r blaen. “Felly dyna oedd ffordd fi mewn i chwaraeon.”
Pan nad oedd Bowen gyda City, treuliodd hanner ei amser gyda’r adran ffisio’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol. Adeg yma roedd dychweliad i rygbi gyda thimoedd ieuenctid y Gweilch, yn ogystal â rôl fel pennaeth ffisio clwb rygbi Abertawe. Galwodd y tîm pêl-droed iddo unwaith eto, am chwe mis, cyn i’r Gweilch dod ‘nôl ato i gynnig swydd llawn amser.
Sut oedd hi’n gweithio gyda’r GIG am flwyddyn a hanner? “Wnes i rili mwynhau e. Mae’n wahanol i ffisio chwaraeon ond rhoddodd e sylfaen dda i fi ddysgu sgiliau newydd. Un gwahaniaeth rhwng gwaith ‘na a’r gwaith fi nawr yw bod chi ond yn gweld cleifion am tua hanner awr yn yr ysbyty, tra bod ni’n cael lot mwy o amser yn gweithio gyda chwaraewyr rygbi. Ond falle taw’r disgwyliadau yw’r prif wahaniaeth rhwng y ddau.”
Mae e’n cytuno bod elfen o ymddiriedaeth yn angenrheidiol rhwng ffisio a’r chwaraewyr. “Yn bendant mae rhaid cael perthynas gwaith da,” meddai Bowen. “Mae’n cymryd bach o amser i ennill yr ymddiriedaeth honna, ond unwaith chi’n dod i nabod eich gilydd mae pethau’n dod yn fwy cyffyrddus. Rwy wedi bod gyda’r Gweilch am bum mlynedd nawr, felly mae perthnasau’n dda.”
Mae Bowen wedi gweld poblogrwydd ei brofessiwn yn codi yn diweddar. “Mae’r swydd yn un boddhaus iawn, ond ma fe’n annodd iawn yn nhermau yr oriau hir, a’r disgwyliadau a pwysau sydd ar eich ysgwyddau. Y peth cool am bod yn physio gyda tîm rygbi yw bod chi’n rhan o popeth sy’n digwydd.”
Yr holl emosiynau sy’n rhan o dîm rygbi, y llwyddiannau ac yr anffodion – mae Bowen wedi teimlo nhw i gyd. “Pan ddechreuais i gyda’r Gweilch roedd y tîm ar frig y gynghrair, wedyn gaethon ni bach o ‘slump’, ond nawr ni ‘di troi cornel. Mae’n anhygoel i fod yn rhan o hwnna.”
Dydd y gêm yw lle mae popeth yn dod i fyw, yn ôl Bowen. “Chi’n teimlo’n rhan o’r holl ddiwrnod, sydd gallu fod yn deimlad arbennig. Chi yw’r olaf i adael y stafelloedd newid cyn y chwaraewyr, yn rhoi triniaeth munud-olaf iddyn nhw sydd angen e; wedyn chi reit ar bwys y cae. Fi wedi cael fy mwrw gan gwpl o beli – a chwaraewyr!”
Pa gyngor sydd ganddo am rywun sydd eisiau fod yn ffisiotherapydd chwaraeon? “Mae rhaid rhoi lot o amser lan i wneud y swydd hon, yn enwedig wrth drio torri mewn i’r proffesiwn. Ar un adeg roedd pum swydd gyda fi er mwyn dod o hyd i’r swydd ddelfrydol, ond unwaith chi’n ffeindio ffordd mewn, mae’n amgylched arbennig i fod yn rhan o.
“Fel dwedais i, mae’r oriau’n hir, ond mae lot yn dibynnu ar ffafriaeth yr hyfforddwr. Fi wedi gweithio gyda chwpl ohonyn nhw nawr: mae rhai yn hoffi dyddiau hir, mae rhai yn hoffi dyddiau byr. Ta beth, chi yw’r rhai cyntaf mewn a’r olaf mas.” A dyw’r gwaith ddim yn gorffen unwaith iddo adael Llandarcy. “Mae fy nghariad, Becs, wedi dod i’r arfer o fy ffon yn galw trwy’r amser!”
Fel un sy’n dod o bentref bach yn y Gorllewin, nid yw’n syndod bod Bowen yn Gymro balch – a’r iaith yn agwedd pwysig o hynny. “Wnes i dyfu lan yn siarad Cymraeg ‘da’r teulu, ac rydw i o hyd yn gweld e fel rhywbeth sbesial,” eglura Bowen. “Rwy’n siarad Cymraeg gyda nifer o’r chwaraewyr a staff [gan gynnwys Aled Griffiths, prif ddadansoddwr y Gweilch], a chi gallu cael perthynas go dda trwy wneud hynny.
“Mae’r cysylltiad fynna yn barod pan chi’n siarad yr iaith.”