Haf mawr ar y gorwel i’r Piod

Haf mawr ar y gorwel i’r Piod

“Dwi wedi byw yn y Tymbl ers symud ‘na yn 1994,” meddai Robin McBryde. “Mi o’n i dal yn chwarae i Lanelli adeg hynny, ac wedyn gafodd fy mab cyntaf ei eni yn ‘96, yr ail yn 2000.”

Rhannu:

Dyma sut y dechreuodd y perthynas parhaol rhwng McBryde – cyn-hyfforddwr Cymru ond nawr gyda Leinster a’r Llewod – a Chlwb Rygbi y Tymbl. “Dechreuon nhw chwarae rygbi i’r clwb ac o’n i’n dilyn nhw ym mhobman, a helpu allan pryd bynnag o’n i allu,” cofia McBryde, sydd nawr yn is-lywydd anrhydeddol y clwb. “Ges i lot o brofiadau mynd ar wahanol deithiau ar fore Sul gyda nhw, jyst yn cael mwynhad dilyn y tîm ieuenctid o gwmpas, a mynd i wahanol glybiau byswn i ddim fel arfer ‘di cael y siawns i ymweld â.”

Mae haf mawr ar y gorwel i’r Piod. Yn ymuno â McBryde ar daith y Llewod mae Marc Kinnaird, dadansoddwr Cymru a chyn-hyfforddwr a chwaraewr i Dymbl. Mae Gareth Williams, mab un o arwyr y Tymbl yn yr 80au, yn rhan o dîm hyfforddi Cymru. Yn ennill ei chap gyntaf dydd Sadwrn yma fydd Tom Rogers, yr asgellwr cyffrous a symudodd o Gefneithin i chwarae rygbi ieuenctid, a’i gêm hŷn cyntaf, dros Dymbl. Y tymor nesaf, prif hyfforddwr Rogers yn y Scarlets fydd cyn-chwaraewr arall y Piod, Dwayne Peel, sy’n dychwelyd i’r rhanbarth ar ôl sbel yn Ulster.

Haf mawr ar y gorwel i’r Piod

Peris Williams - un o arwyr y Piod yn yr 80au - yw tad Gareth Williams, un o hyfforddwyr Cymru.

“Roedd y clwb yn rhan enfawr o fy magwraeth,” meddai Williams. “Yn dilyn fy nhad, Peris, tra roedd e’n chwarae – a pob un o fy ffrindiau hefyd yn feibion i’r chwaraewyr. Mae adran iau gref go iawn gyda’r clwb, ac mae’r cyfan yn arwain at deimlad cymunedol sydd wedi helpu datblygu ni’n naturiol fel chwaraewyr.

“Tyfais i fyny gydag un uchelgais: i chwarae rygbi i’r tîm cyntaf Clwb Rygbi y Tymbl. Sai’ wedi cyflawni hynny achos y llwybr mae rygbi wedi fi nghymryd i arno. Ond mae’r gwerthoedd mae’r clwb wedi rhoi i fi wedi chwarae rhan fawr yn fy holl brofiadau chwarae a hyfforddi.”

Mae McBryde yn ffeindio hi’n hawdd esbonio apêl y clwb: “Mae’n ganolbwynt y pentre’. Yn hanesyddol, mae ‘na wedi bod trawstoriad o oedrannau gwahanol: rhyw foi yn ei 30au hwyr sy’ dal yn chwarae, neu rywun sy’n dod trwy yn ei 20au, a be sy’n cael ei phasio lawr yw hanesion a chaneuon. Dwi’n falch fod fy meibion wedi cael blas ohoni, ac mae gen i Dymbl i ddiolch am hyn achos y croeso gafon ni.”

Haf mawr ar y gorwel i’r Piod

Y clwb yw ganolbwynt y pentre, meddai Robin McBryde. (Llun: Gwyn Edwards)

Mae’n wir fod McBryde wedi cael ei phrofiad cyntaf o hyfforddi gyda’r clwb, yn ystod adeg lle’r oedd y bachwr yn adfer o anaf wrth chwarae i Lanelli. Dyma le dysgodd wersi sydd dal yn dal i lywio ei athroniaeth hyfforddi heddiw. “Hyd yn oed hyfforddi plant, rhaid bod chi’n paratoi’n iawn, ac mae’r gallu i drosglwyddo neges glir yn fwy pwysig na byth wrth ddelio gyda chwaraewyr ifanc,” meddai. “Mae gymaint chi’n neud fel hyfforddwr medru dylanwadu ar ddatblygiad nhw, felly mae cael profiad ‘na yn grêt i unrhyw hyfforddwr, dim ond bod nhw’n medru cadw meddwl agored, a dim bod yn rhy bendant.

“Mae eisiau rhoi rhywfaint o ryddid i chwaraewyr felly bod nhw gallu dangos eu doniau. Mae rhaid gweithio ar sgiliau elfennol a ddim mynd yn rhy ddwys yn rhy gynnar, a jyst cadw’r pwyslais ar fwynhad yn hytrach na llwyddiant.”

Haf mawr ar y gorwel i’r Piod

O chwith i dde: Hyfforddwyr Hugh Gustafson, Kinnaird a Chris Davies ar ôl y fuddugoliaeth yn Aberaeron. (Llun: Gwyn Edwards)

Pedair blynedd yn ôl, mwynhaodd Kinnaird diweddglo godidog i’w yrfa fel chwaraewr/hyfforddwr i’r tîm cyntaf. “Roedden ni’n chwarae gêm olaf y tymor yn Aberaeron,” mae’n cofio. “Roedd yna ychydig o anafiadau, gan gynnwys rhai yn y cynhesu, felly roedd yn rhaid i mi fynd ar y fainc. Fe wnes i hyd yn oed orffen chwarae yn y camau cau. Fe wnaethon ni sgorio ym munud olaf y gêm i gael pwynt bonws a olygai ein bod wedi ennill y gynghrair. Roedd yn daith wych ar y ffordd yn ôl, fel y gallwch chi ddychmygu!”

Gyda’i 125fed pen-blwydd i ddod y flwyddyn nesaf, mae’n sicr fod mwy o ddathliadau i ddod i Glwb Rygbi y Tymbl.