Alun Wyn Jones
Cap No 1046
Y goron ar daith wych Alun-Wyn yn Awstralia gyda’r Llewod yn 2013 oedd cael bod yn gapten ar y tîm buddugol yn y gêm brawf olaf yn Sydney. Mae hynny’n golygu ei fod bellach wedi ennill chwech o gapiau dros y Llewod, ar ôl ennill tri chap yn Ne Affrica yn 2009.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn yr Ariannin yn 2006. Chwaraeodd mewn tair gêm brawf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008 ac yn 2012 pan enillodd Cymru y Gamp Lawn, ac enillodd dri chap arall pan enillodd Cymru y Bencampwriaeth yn 2013. Chwaraeodd ran ym mhob un o saith gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011.
Cafodd Jones ei enwi’n gapten carfan Cymru o 32 o chwaraewyr ar gyfer y daith i Dde Affrica yn ystod haf 2014.