
Dan Biggar
Cap No 1063
Mae Biggar wedi ennill capiau dros sawl un o dimau oedrannau Cymru, a serennodd dros dîm dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth Iau gyntaf y Byd. Enillodd Biggar ei gap llawn cyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym mis Tachwedd 2008 pan oedd yn dal yn ei arddegau.
Collodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS 2012, pan enillodd Cymru y Gamp Lawn, oherwydd anaf ond dychwelodd i’r tîm yn 2013 gan ddechrau ym mhob un o bum gêm lwyddiannus Cymru a arweiniodd at gipio’r Bencampwriaeth.
Erbyn iddo orffen chwarae yn y ddwy gêm brawf ar y daith i Japan, roedd wedi dechrau saith gêm yn olynol dros Gymru.
Cafodd ei enwebu’n Chwaraewr y Flwyddyn Cynghrair Pro12 RaboDirect yn 2014 gan ei gydchwaraewyr, a oedd yn goron ar ei dymor gwych dros y Gweilch.