
Rhys Patchell
Cap No 1107
Chwaraeodd Rhys yn nhîm h?n Cymru yn ystod yr haf hwn, gan fynd ar y cae yn eilydd yn y ddwy Gêm Brawf yn Japan, a sgorio’i bwyntiau rhyngwladol cyntaf pan lwyddodd â’i gic gosb.
Dechreuodd y cynnyrch hwn o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ei rygbi clwb i CRICC cyn symud ymlaen i dîm Ieuenctid Cyn-Fechgyn Ysgol Uwchradd Caerdydd a thimoedd gradd oedran rhanbarthol ac academi’r Gleision dan adain URC. Ar y maes rhyngwladol, cynrychiolodd Gymru yn y garfan Saith Bob Ochr a charfan Dan 18 Cymru.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf ar lefel rhanbarth yn y Cwpan=LV yn 2011/12 ac mae nawr wedi cynrychioli’r Gleision ar 33 o achlysuron, gan sicrhau 194 o bwyntiau.