Polisi Cwcis
Polisi Cwcis
Bwriad y Polisi Cwcis hwn yw rhoi gwybod sut rydym yn defnyddio “cwcis” a thechnolegau tebyg ar y wefan hon, a’ch helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth wrth ei defnyddio.
Fel llawer o wefannau eraill, rydyn ni’n defnyddio “cwcis” i’n helpu ni i gasglu a storio gwybodaeth am ymwelwyr â rhai o’n Gwefannau.
Beth yw cwcis?
Mae cwcis a thechnolegau tebyg yn ddogfennau testun bach iawn neu ddarnau o god, sy’n aml yn cynnwys dynodwr unigryw anhysbys. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan neu’n defnyddio ap ar gyfer dyfeisiau symudol, mae cyfrifiadur yn gofyn i’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol am ganiatâd i storio’r ffeil hon ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol, a chael mynediad i wybodaeth ohoni. Gall gwybodaeth sy’n cael ei chasglu trwy gwcis a thechnolegau tebyg gynnwys dyddiad ac amser yr ymweliadau a sut rydych chi’n defnyddio’r wefan benodol neu’r ap ar gyfer dyfeisiau symudol. Rydym yn defnyddio cwcis fel rhan o’r wefan ac maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio gan rai o’n partneriaid trydydd parti.
Mathau o Gwcis
Y mathau o gwcis a ddefnyddir ar y wefan hon yw:
- Cwcis Dewis – Ar eich cais chi efallai y byddwn yn gosod cwci i gofio’ch dewisiadau fel nad oes angen i chi ail-nodi’ch manylion (dewisiadau gwlad/oedran ac iaith) ar ein tudalen porth. Nid yw hyn yn addas os ydych chi’n rhannu’ch cyfrifiadur â rhywun arall.
- Cwcis Rhannu Cymdeithasol – Cwci yw hwn sy’n eich uniaethu â gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Twitter ac sy’n caniatáu rhyngweithio rhwng eich gweithgaredd ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol ac ar ein gwefan dan eich rheolaeth, ac yn gwneud eich trosglwyddiad rhwng y gwefannau yn fwy llyfn.
- Dadansoddeg Safle – Rydym yn defnyddio offer dadansoddeg i helpu i ddadansoddi’r defnydd o’n gwefan. Mae’r offer dadansoddol hyn yn defnyddio ‘cwcis’, sef ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr ar ffurf anhysbys. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i’r darparwr offer dadansoddeg perthnasol. Yna defnyddir y wybodaeth hon i werthuso defnydd ymwelwyr o’r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgaredd gwefan.
- Cwcis Sesiwn – Rydym yn defnyddio cwcis sesiwn, sef cwcis dros dro sy’n cynorthwyo taith y defnyddiwr o amgylch y wefan, a byddwn yn cofio’r dewisiadau a wnaethoch yn ystod y sesiwn. Mae’r cwcis hyn yn cael eu dileu cyn gynted ag y byddwch chi’n gadael y wefan.
Sut Alla i Reoli Fy Nghwcis?
Mae gennych y gallu i dderbyn neu wrthod cwcis trwy addasu’r gosodiadau. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio holl nodweddion rhyngweithiol ein gwefan os yw cwcis wedi’u hanalluogi.
Mae yna nifer o ffyrdd i reoli cwcis:
- Cliciwch “Derbyn pob Cwci” os ydych chi’n cytuno i ddefnyddio cwcis wrth ddefnyddio’r wefan.
- I newid eich dewisiadau cwci, gan gynnwys sut i analluogi cwcis, cliciwch “Rheoli Cwcis”.
- Gallwch rwystro’r defnydd o gwcis yn gyfan gwbl trwy alluogi’r gosodiadau perthnasol yn eich porwr. Gallwch ddarganfod sut i wneud hynny ar gyfer amrywiaeth o borwyr yn www.allaboutcookies.org/.
I gael mwy o wybodaeth am reoli cwcis a rhwystro neu ddileu cwcis ar gyfer amrywiaeth eang o borwyr, ewch i www.allaboutcookies.org/.