Bydd y ddau, a fu’n chwarae yn y lle cyntaf i dimau ieuenctid y Gweilch, yn cyrraedd y cant pan fydd y Gweilch yn herio’r tîm sydd ar frig cynghrair PRO12 Guinness ac yn ceisio dychwelyd i blith y pedwar uchaf.
Chwaraeodd Bevington ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ar ddiwrnod olaf tymor 2007/08, oddi cartref yn Connacht, ac ymddangosodd Tipuric yn lliwiau’r Gweilch am y tro cyntaf mewn gêm yng Nghwpan LV= yn erbyn Northampton yn Stadiwm Liberty ym mis Tachwedd 2009.
Meddai Tipuric: “Fel bachgen lleol, chwarae i’r Gweilch oedd y nod erioed i mi fel crwt ifanc, felly mae’n anodd credu y byddaf yn chwarae fy nghanfed gêm i fy rhanbarth lleol ddydd Sadwrn. Rwy’n credu bod pawb yn gwybod mor falch yr wyf o fy ngwreiddiau, ac roeddwn i wrth fy modd o allu llofnodi contract newydd ychydig fisoedd yn ôl. Rwy’n sylweddoli bod chwaraewyr gwych wedi chwarae cant neu ragor o gemau i’r Gweilch, felly mae’n fraint i mi allu cyrraedd y cant hefyd.
“Rydw i yma ers pan oeddwn i’n 15 oed, a dwi ddim am fod yn unrhyw le arall,” meddai Bevington. “Mae llawer o gystadleuaeth am leoedd yn y garfan, ac mae’r rheng flaen bob amser wedi bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n gwybod bod yn rhaid i mi weithio’n galed er mwyn gallu parhau i gystadlu am le. Mae cyrraedd y cant yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu chwarae llawer mwy o gemau dros y rhanbarth.”
Enillodd dynion Steve Tandy gyda sgôr o 19-14 yn Limerick yn rownd 4, ac maent yn chwilio am eu dwbl cyntaf mewn tymor dros w?r Munster ers tymor 2011/12. Mae pethau’n argoeli’n dda i’r tîm cyntaf, oherwydd dim ond tair gêm yn unig y mae Munster wedi’u hennill yn Stadiwm Liberty o gymharu ag wyth buddugoliaeth i’r Gweilch yn erbyn y cochion.