Neidio i'r prif gynnwys
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd

Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd

Bydd y Scarlets yn wynebu rhai chwaraewyr cyfarwydd yn ystod yr ornest yn erbyn Racing Metro yng Nghwpan Heineken nos yfory.

Rhannu:

Bydd Simon Easterby a’i dîm yn hedfan i Baris y prynhawn yma yn barod i wynebu cewri Ffrainc – tîm sy’n cynnwys y Cymry Mike Phillips a Dan Lydiate. Ni fydd Jamie Roberts yn chwarae oherwydd anaf.

Pan wynebodd y ddau dîm ei gilydd ym Mharc y Scarlets ym mis Hydref, gêm gyfartal a gafwyd gyda sgôr o 26-26, wrth i Scott Williams a Rhodri Williams groesi i’r tîm cartref. Ar ôl colli ddwywaith yn erbyn y Gweilch dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, bydd Easterby yn awyddus i weld ei dîm yn adeiladu rhywfaint o fomentwm cyn ailafael yng ngemau cynghrair RaboDirect Pro12.

Mae Easterby wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Liberty yr wythnos diwethaf. Bydd Aled Thomas yn cymryd lle Gareth Owen fel cefnwr, a bydd Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr yn lle Rhodri Williams. Bydd Davies yn mynd benben â Phillips, a fydd yn chwarae ei gêm gartref gyntaf dros Racing yn erbyn y clwb lle dechreuodd ei yrfa.

Ymysg y blaenwyr, bydd Johan Snyman yn cymryd lle George Earle yn yr ail reng, a bydd y  blaenasgellwr Aaron Shingler yn cymryd lle Josh Turnbull.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Rhino Rugby
Sportseen
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd
Amber Energy
Opro
Y Scarlets yn wynebu Cymry cyfarwydd