Nigel Owens
Professional referee, TV presenter and entertainer
Dechreuodd Owens ddyfarnu yn 1987 mewn gêm dan 15 rhwng Caerfyrddin a Sir Benfro pan oedd yn 16 oed, ac erbyn hyn caiff y Cymro Cymraeg ei ystyried yn ddyfarnwr rygbi gorau’r byd.
Mae’r dyfarnwr poblogaidd eisoes wedi bod wrth y llyw mewn 80 o gemau rhyngwladol, ac ef oedd yr ail Gymro i gael ei ddewis i ddyfarnu Gêm Derfynol Cwpan y Byd wedi i Derek Bevan wneud hynny yn Rownd Derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1991. Owens oedd y dyn yn y canol pan gollodd Awstralia i Seland Newydd yng ngêm derfynol Cwpan y byd yn 2015.
Enillodd Owens Wobr Dyfarnwr Rygbi Gorau’r Byd yng Ngwobrau Rygbi’r Byd 2015, a oedd yn goron ar yrfa sydd wedi’i weld yn torri sawl record.
Yn 2016 torrodd y record am ddyfarnu’r nifer fwyaf o gemau rygbi rhyngwladol pan gymerodd ofal o’r gêm rhwng Ffiji a Tonga yn Suva, gan dorri record Jonathan Kaplan o 70 o gemau rhyngwladol.
Nigel Owens Newyddion
Delweddau o Nigel Owens
Tymor | Gemau |
---|---|
2003 | P v G* |
2005 | Arg v Sam, J v I |
2006 | Arg v U, It v A |
2007 | E v It, P v M*, NZ v A, I v It, Arg v Geo, S v Rom, A v Fj |
2008 | F v I, It v S, NZ v E, F v PI, E v SA |
2009 | I v F, S v It, SA v NZ, NZ v SA, E v Arg, I v SA |
2010 | S v F, A v E, SA v NZ, I v SA |
2011 | S v I, RWC: Fj v Nam, NZ v J, USA v A, SA v Sam, R v C, I v E, NZ v Arg |
2012 | F v It, E v I, NZ v I (1), NZ v Ire (2), NZ v A, A v SA, FvA, E v SA |
2013 | It v F, F v S, Arg v Eng, NZ v F, A v Arg, SA v NZ, I v NZ |
2014 | F v E, I v It, NZ v E, SA v A, Arg v A, *R v Z, E v NZ, F v A |
2015 | F v S, E v F, Tg v Ga, SA v S, F v I, A v SA, NZ v A, E v I, NZ v F, NZ v A |
2016 | F v E, St V v J*, F v T, A v E, A v SA, NZ v A, It v NZ |
2017 | I v F, Arg v E, NZ v A, NZ v SA, Barb v NZ*, F v SA |
2018 | F v I, S v E, J v G |
2019 | E v F |