Fe daflodd yr anafiadau – y cyntaf i Webb yn yr hanner cyntaf a’r ail i Halfpenny yn chwarter olaf – gysgod ergyd dros y gem. Ac er i Gymru sicrhau’r fuddugoliaeth wedi perfformiad siomedig ar y cyfan, cafwyd fawr o ddathlu ar y diwedd.
Mi gafodd Webb ei ddal ar waelod sgarmes hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda’i goes chwith i’w weld yn plygu o dan bwysau ei gyd-chwaraewyr. Ac fe aeth y dylanwadol Halfpennny oddi ar y cae ar ol llithro a troi ei goes.
Dechrau digon bratiog a gafwyd gyda chamgymeriadau elfennol yn atal Cymru rhag cynnal y momentwm a greuwyd yn Nulyn wythnos ynghynt.
Fe ddechreuodd y gêm yn y modd gwaethaf posib werth i gapten yr Eidal Sergio Parisse Parais bel wrth i Gymru ymosod. Dim ond tacl ddaeth a rhediad 80 llath yr Eidalwr i ben, ond roedd Leonardo Sarto wrth law i groesi.
Fe fethodd Tommasso Allan y trosiad ond fe lwyddodd gyda chic gosb cyn i George North ymateb gyda chais gafodd ei greu gan fylchiad lawr y canol gan Scott Williams.
Daeth Dan Biggar y sgôr yn gyfartal gyda chic cosb ond Allan gafodd y gair olaf gyda chic gosb arall i roi ei dim ymlaen ar yr Egwyl.
Derbyniodd Halfpenny y dyletswyddau cicio wedi’r egwyl ac fe laniodd tair yn llwyddianus cyn ei anaf. Ac er I Caro Canna gau’r bwlch gyda gôl adlam fe ychwanegodd Biggar chwe phwynt arall i wneud y gêm yn ddiogel er i Guglielmo Palazzani groesi i’r ymwelwyr gyda symudiad olaf y gêm.
Diweddglo siomedig i gêm hunllefus i Gymru.