Neidio i'r prif gynnwys
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru

Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru

Buddugoliaeth i Gymru yn eu hail gêm yng nghyfres Dove Men Care, ond y teimlad o rwystredigaeth ac nid gorfoledd oedd yn llenwi Stadiwm y Mileniwm ar ddiwedd gem digon siomedig.

Rhannu:

Ar ôl cofnodi 17 pwynt yn yr hanner cyntaf fe fethodd Cymru ac adeiladu ar hynny wedi’r egwyl, er i Fiji chwarae rhan helaeth o’r ail hanner gyda 14 dyn ar ôl i Campese Ma’afu weld ei ail gerdyn melyn.
 
Go brin y bydd yn rhaid atgoffa’r chwaraewyr y bydd yn angen perfformiad llawer mwy disgybledig a deallus er mwyn peri unrhyw ofid i’r Crysau Duon ymhen wythnos.
 
Er i Warren Gatland wneud wyth newid i’r tîm gollodd yn erbyn Awstralia, roedd yn olwg digon cyfarwydd i’r 15 ddechreuodd yn erbyn Fiji gyda Mike Phillips, Bradley Davies, Luke Charteris a Gethin Jenkins ymhlith y wynebau ‘newydd’.
 
Roedd y ffordd y dechreuodd Cymru’r gem yn erbyn y Wallabies yn un o’r elfennau oedd wedi plesio tîm rheoli Cymru y penwythnos diwethaf.
 
Ac fe ddangosodd y tîm cartref yn un awch yn y munudau agoriadol, ac o fewn chwe munud roedden nhw ar y blaen.
 
Wedi gwaith grymus gan y blaenwyr yn dilyn llinell ar 22 Ffij fe gyfunodd Rhys Priestland a Jamie Roberts i ryddhau Scott Williams mewn erwau o dir, ac ar ôl i’r canolwr ddenu y taclwr olaf, gorchwyl digon hawdd oedd yn wynebu George North i groesi am ei 19 cais dros Gymru.
 
O’r sgrym gyntaf,  Cymru oedd yn mwynhau’r oruchafiaeth a gyda’i rheng flaen o dan bwysau yng nghysgod y pyst fe ildiodd Ffiji cic rydd. Gosodwyd y llwyfan ymosodol ar ôl i Phillips gymryd y cic yn gyflym fe wnaeth Priestland yn dda i symud canolbwynt y chware i’r ochr dywyll cyn rhyddhau Alex Cuthbert am ail gais y prynhawn.
 
Cofnododd Nemani Nadolo pwyntiau cyntaf ei dim ar ôl 20 munud wrth i Gymru ildio cic gosb am gamsefyll
 
 A bu’n rhaid aros am bron i hanner  awr cyn gweld enghraifft o rygbi 15 dyn sydd mor nodweddiadol o arddull Ffiji. Ac ar ddiwedd eu cyfnod gorau o chwarae pryd cafodd cyfle euraidd am gais ei wastraffu gan yr wythwr Akapusi Qera,  fe dderbyniodd Nemani Nadolo gyfle arall i gau’r bwlch i 10-6.
 
Roedd Cymru yn hapus i weld y canolwr yn methu trydydd cynnig at y pyst cyn i Gymru ymestyn y fantais diolch i waith caib a rhaw glodwiw unwaith eto gan y blaenwyr.
 
Os oedd sgrym Cymru yn gadarn, roedd gwaith y blaenwyr yn y llinellau Cymru hyd yn oed yn fwy effeithiol. Ac wedi 36 munud fe ildiodd yr ymwelwyr cais cosb ar ôl iddyn nhw dynnu sgarmes symudol y Cymry i’r llawr am y trydydd tro yn olynol.

Ac i fod yn deg i’r dyfarnwr o Ffrainc  Pascal Gauzere fe roddodd rybudd clir eiliadau ynghynt drwy ddangos y cerdyn melyn i’r prop Campese Ma’afu am ei ran yn y troseddu.
 
Ar  ôl methu gyda ddau ymgais flaenorol fe lwyddodd Priestland i drosi i roi Cymru ar y blaen 17-6 ar yr egwyl, gyda  Nadolo yn methu cic arall at y pyst.
 
Er iddyn nhw ddechrau’r ail hanner ar garlam fe fethodd Cymru droi’r pwysau yn bwyntiau. Fe flwyddodd Dan Lydiate i groesi ond fe wrthododd y dyfarnwr teledu a chaniatau’r ymdrech gan benderfynnu bod y blaenasgellwr yn euog o symudiad dwbwl.
 
Roedd y sgarmes symudol yn parhau’n arf miniog i Gymru, ac fe dderbyniodd Ma’fau eil eil gerdyn melyn am daclo Bradley Davies  yn yr awyr gyda bron i hanner awr yn weddill.
 
Ond bratiog a di-gyfeiriad oedd y chware wrth i Gymru fethu a gwneud yn fawr o’u mhantais a bu’n rhaid I’r dorf o 61,000 diddanu eu hunain ar brydiau gyda’r ‘Don Mecsicanaidd’.
 
Ond roedd sylw dorf yn ôl ar dir y chwarae wedi 71 munud yn dilyn rhediad gan chwaraewr amlycaf y gêm Liam Williams. Fe wnaeth y cefnwr yn wyrthiol i godi ar y draed ar ôl y dacl cyn bwydo Taulupe Faleteau. Ac i’r wythwr groesi, wedi hir aros fe benderfynodd y dyfarnwr teledu bod Williams wedi cael ei daclo gan olygu nad oedd hawl ganddo i roi’r bas i Faleteau..
 
Ffiji gafodd y gair olaf ar ddiwedd prynhawn rhwystredig i Gymru wrth i Nadolo rhyngipio’r bel  yn ei hanner ei hun wrth i Gymru ymosod – yr ail wythnos yn olynol i dîm Warren Gatland ildio cais yn y fath modd. Y tro hyn fodd bynnag chafodd y trais na’t trosiad a ddilynodd unrhyw wahaniaeth i’r canlyniad.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru
Amber Energy
Opro
Buddugoliaeth rhwystredig i Gymru