Neidio i'r prif gynnwys
Clod i amddiffyn Cymru

Clod i amddiffyn Cymru

Mae gobeithion Cymru o ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd ar ôl ymdrech wirioneddol arwrol yn erbyn y Gwyddelod ym merw gwyllt y Stadiwm y Mileniwm.

Rhannu:

Er mai cais gwych yr eilydd Scott Williams  wedi 61 munud brofodd yn allweddol, roedd amddiffyn y Cymry ar brydiau  bron tu hwnt i’r hyn mae disgwyl i unrhyw dim ei gyflawni mewn 80 munud.
 
Fe gafodd un o’r bloeddiadau uchaf y prynhawn ei glywed nid ar ddiwedd y gêm, ond ar ôl 56 munud. Dyna pryd cododd y gwarchae ar linell Cymru pan ildiodd y Gwyddelod cic gosb wedi cyfnod o bwysau di-dor. Gwelwyd dau gyfnod o chwarae pryd aeth Iwerddon trwy 20 cymal, ond rhywsut fe lwyddodd Cymru i gadw eu gwrthwynebwyr draw.
 
Chwe munud yn ddiweddarach, roedd Williams yn dathlu ei gais a hynny ar ôl i allu amddiffyn yr ymwelwyr ddod o dan y chwyddwydr a’i brofi yn ddiffygiol, gyda Tommy Bowe yn enwedig ar fai wrth adael bwlch yr oedd Williams yn barod i lenwi
 
Fe ddaeth y pwyntiau cyntaf yr ail hanner ar ôl i bedwar cic cosb Leigh Halfpenny roi Cymru 12-0 ar y blaen wedi 12 munud. Er nad oedd o ar ei orau, fe atebodd Sexton gyda dau cic cosb cyn i Biggar lwyddo gyda gôl-adlam yn ystod y cyfnod pan oedd Sam Warburton oddi ar y cae am droseddu’n rhy aml yn ardal y dacl.
 
Bu’n rhaid I Gymru ymdopi gydag ergyd arall yn ystod yr hanner cyntaf pan gafodd Samson Lee anaf i’w goes gan orfodi’r prop ifanc i ildio ei le i Aaron Jarvis.
 
Sexton gafodd y gair olaf cyn troi gyda chic gosb arall ac yna fe ddaeth yr ail hanner o ddrama.
Gyda’r Gamp Lawn yn y fantol, roedd disgwyl ymateb gan y Gwyddelod ar ôl y siom o ildio cais Williams. A dyna yn union  a gafwyd. Ar ôl i Gymru unwaith eto dod o dan bwysau eithriadol,  ildiwyd cais cosb wrth i Wayne Barnes ddyfarnu bod Cymru wedi cwympo sgarmes symudol yn fwriadol.
 
Gyda ond saith munud yn weddill, mi dderbyniodd Halfpenny gyfle amhrisiadwy i ymestyn y fantais 23-16 diolch i waith seren disgleiriaf y gêm, Warburton yn ardal y dacl.
 
Er mai gêm gyfartal oedd y gorau y gall y Gwyddelod ei obeithio fel gwobr am eu llafur, roedd hynny yn ddigon o abwyd er mwyn trefnu cyrch arall ar linell Cymru yn y munudau olaf gyda’i capten Paul O’Connel yr arwain yr ymgyrch.
 
Ond unwaith eto fe lwyddodd amddiffyn Cymru i ddal eu tir gan sicrhau buddugoliaeth fydd yn rhoi hyder aruthrol iddyn nhw wrth edrych ymlaen nid yn unig at y gêm yn erbyn yr Eidal, ond hefyd Cwpan y Byd yn yr Hydref.
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Clod i amddiffyn Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Clod i amddiffyn Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Clod i amddiffyn Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Clod i amddiffyn Cymru
Clod i amddiffyn Cymru
Clod i amddiffyn Cymru
Clod i amddiffyn Cymru
Clod i amddiffyn Cymru
Clod i amddiffyn Cymru
Amber Energy
Opro
Clod i amddiffyn Cymru