Anodd i’w chwarae unrhyw fath o rygbi heb feddiant o’r bêl, a dyma yn anffodus fu hanes y Cymry yn y Stoop tra yn gwynebu yr hen elyn. Cymhlethdodwyd y sefyllfa yn ormodol drwy golli meddiant yn ystod cyfnodau cynnar y gêm gyda hyn yn rhoi hyder ychwanegol i’r Saeson.
Hawdd beirniadu, ond efallai i’r Cymry roi ychydig gormod o barch i’r crysau gwyn ar y dechrau a hynny wedyn yn cymhlethu y sefyllfa’n fwy wrth i’r gêm fynd rhagddi.
O ddweud hynny, ni fedrai neb bwyntio bys at unrhyw un mewn crys coch yn nhermau eu hymdrechion, gyda Sioned Harries o’r blaenwyr a Jess Kavanagh Williams o’r olwyr o bosib yn dod i’r brig yn nhermau eu cyfraniadau.
Yn ystod y munudau cyntaf tybiodd y Saeson eu bod am sgorio yn y gornel gyda Danielle Waterman wedi rhyddhau Abby Dow yn gelfydd. Ond o rywle cyrhaeddodd Jess Kavanagh Williams ar garlam i’w bwrw hi a’r liman gornel oddi ar y maes. Dryswyd peth ar y patrwm wrth i Kerin Lake orfod gadael gyda anaf i’w braich ond llithrodd Hannah Jones yn ddigon naturiol i’r bwlch.
Daeth y sgor gyntaf wedi wyth munud yn dilyn daliad glân o’r linell a nifer o hyrddiadau yn dod ar pac yn agosach, nes i Poppy Cleall wasgu trosodd a Katy Daly-Mclean yn trosi. Ar y cyfnod yma, yn anffodus, collodd y Cymry nifer o feddiant prin nad allent ei fforddio o linellau, gyda hyn yn ychwanegu at y pwysau. Yn fuan llwyddodd dwylo da Rachel Burford i ryddhau Abby Dow i roi llwybr clir i’r linell, cais gafodd eto ei drosi gan Daly-Mclean.
‘Roedd blaenwyr mawr Lloegr gyda’r oruchafiaeth yn ardal y dacl ac yn gyson ennill tir. O feddiant o’r fath llithrodd y fewnwraig Leanne Riley i’r ochr agored i ganfod bwlch a sgorio’r trydydd cais , un arall a droswyd gan Daly-Mclean wedi ugain munud.
Gellid canmol y crysau coch am frwydro i sicrhau nad ond un cais arall a sgoriwyd yn ystod yr ail ran o’r hanner. Gweithiodd Carys Phillips yn galed i arwain trwy esiampl gyda Sioned Harries a gweddill y rheng ôl yn cyfrannu i gynorthwyo y cefnwyr trwy’r amser. Un arall a gyfrannodd yn ystod yr hanner oedd Amy Evans, gyda’r gig gosb yn ei herbyn am dacl uchel honedig yn ddadleuol iawn o ail weld y digwyddiad.
Beth bynnag, dechreuodd y sgrym wegian, ag o golli meddiant prin o’r fath doedd yr amddiffyn ar y droed ôl a doedd hi ddim yn syndod gweld Ellie Kildunne y ganolwraig ifanc yn manteisio ar y cyfle i hollti’r amddiffyn a dwyn sgorio’r hanner cyntaf i ben gyda’r sgor yn 26 pwynt i ddim. Collwyd un cyfle arall drwy daro mlaen yn an-nodweddiadol pan oedd cais bron yn anorfod.
Cafwyd dechreuad digon addawol i’r ail hanner gyda’r sgarmes symudol yn gweithio yn dda, ond allan yn y chwarae agored ‘roedd y Saeson yn ryfeddol o sydyn i gau unrhyw adwy. Pan efo’r bêl ‘roeddynt yn ddigyfaddawd ac wedi sgarmes symudol o’u heiddo, tiriodd Marlie Packer i ychwanegu at y fantais a rhoi trosiad cymharol hawdd i Daly-Mclean. Llwyddodd hi hefyd i drosi y nesa pan i Burford ddiweddu ei chyfraniad meistrolgar a thirio wedi pwysedd o’r sgrym glymu’r amddiffyn a throed gelfydd y maswr yn creu y cyfle iddi hi i sgorio un arall, a droswyd ynogystal.
Daeth eilyddion i’r maes i’r ddau dîm ar yr awr, gyda’r prop Cerys Hale yn anffodus yn anafu ei phenglin o fewn munud neu ddwy i ymddangos. Bu cyfraniad Gwenllian Pyrs ar y pen rhydd yn un i’w ganmol yn fawr, gan i’r sgrym sefydlu o ran y Cymry yn ystod y chwarter olaf. Er hyn, pan yn eu hanner ei hun ‘roedd pawb dan bwysau a pheli yn cael eu dadlwytho pan na ddylid. O osod pwysau enillodd y Saeson sgrym ac wedi hyrddio mlaen sawl tro, daeth pâs daclus gan yr eilydd Justine Lucas i ryddhau Poppy Cleall i sgorio ei hail.
Cic i geisio rhyddhau y pwysau ddaeth a phwyntiau olaf y pnawn, gan i honno ddisgyn yn garedig i ddwylo y gwrthwynebwyr a Kildunne unwaith eto yn manteisio ar ei chyflymder i fylchu a thrwy hynny sgorio cais unigol gwych. Troed Daly-Mclean ychwanegodd y trosiad; sef y chweched o’r wyth cynnig ddaeth i’w rhan.
Bydd y Cymry yn falch o’r pythefnos o saib i ganolbwyntio ar y gem nesaf yn erbyn Iwerddon gan wybod y byddai y mwyafrif o dimau wedi ei chael hi’n anodd yn erbyn y Saeson; a nhwythau ar dân.