Er iddo dderbyn cerdyn melyn gyda phum munud yn weddill roedd cyfraniad y maswr yn allweddol mewn gem llawn cyffro yn Stadiwm y Mileniwm.
Fe ddaeth Cymru o fewn 4 pwynt i’r ymwelwyr, ac er iddyn nhw fwgwth sawl gwaith yn y munudau olaf, roedd y cloc yn eu herbyn gan adael Awstralia i ddathlu eu nawfed fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn y Cymry ers 2009.
Cymru ddechreuodd orau gan arwain 13-3 ar un cyfnod ar ôl i George North groesi wedi dwy funud yn unig.
Ond gyda Cooper yn llywio’r chwarae ac yn creu cyfleoedd gyda’i ddwylo medrus aeth Awstralia ymhell ar y blaen wedi’r egwyl, ac er iddyn nhw frwydro yn ôl gyda dewrder, unwaith eto fe brofodd y bwlch yn ormod i Sam Warburton a’i chwaraewyr.