Ar ôl creu argraff yn y bencampwriaeth y llynedd, roedd hwn yn berfformiad cadarnhaol gan dîm Cymru a oedd yn cynnwys 10 o chwaraewyr a oedd yn chwarae eu gêm gyntaf ar y lefel hon. Y tîm cartref oedd â’r llaw drechaf o safbwynt meddiant a thiriogaeth drwy gydol yr ornest, ac roedd ymdrech y Cymry wrth amddiffyn wedi helpu i atal ymosodiadau’r Azzurri.
Cafodd James Benjamin a’r mewnwr Tom Williams noson i’w chofio, ac roedd yr un yn wir am flaenasgellwr Cross Keys, Scott Matthews, a gafodd ei enwi’n seren y gêm ar ôl bod yn amlwg ym mhob agwedd ar y chwarae. Cariodd Matthews y bêl yn dda wrth ymosod a bu’n taclo’n ddiflino, ond y ceisiau gan Benjamin a’r asgellwr Joshua Adams a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Gymru.
Ar ôl cais Adams a dwy gôl gosb gan y maswr Ethan Davies roedd Cymru ar y blaen ar yr hanner gyda sgôr o 11-9. Tair gôl gosb gan Philip Buscema oedd ymateb yr Eidal.
Gallai’r tîm cartref fod wedi sgorio mwy, ac efallai y dylai fod wedi gwneud hynny, ond roedd cais Benjamin a goliau cosb o droed Davies wedi sicrhau bod y tîm yn ddigon pell ar y blaen.
Ychwanegodd Dafydd Howells drydedd cais yn y funud olaf i roi sglein ar berfformiad cadarnhaol gan Gymru.
Sgorwyr: Cymru: Ceisiau: Adams, Benjamin, Howells; Trosiad: Davies; Goliau cosb: Davies (3)
Yr Eidal: Goliau cosb: Buscema (3)