Roedd yr Albanwyr ar chwâl yn llwyr wrth i Gymru groesi am saith cais – y tîm cyntaf i wneud hynny yn hanes y gystadleuaeth ac roedd y bwlch o 48 pwynt hefyd yn record mewn gemau rhwng y ddau dîm.
Roedd y gêm drosodd fel gornest cyn yr egwyl ar ôl i gefnwr yr Alban Stuart Hogg dderbyn cerdyn coch gwbl haeddiannol am dacl hwyr ar maswr Cymru Dan Biggar.
Roedd y gêm drosodd fel gornest cyn yr egwyl ar ôl i gefnwr yr Alban Stuart Hogg dderbyn cerdyn coch gwbl haeddiannol am dacl hwyr ar maswr Cymru Dan Biggar.
Fe wnaeth tîm Warren Gatland y mwyaf o’r fantais gan chwalu eu gwrthwynebwyr. Sgoriodd Jamie Roberts a George North dau gais yr un gyda seren y gêm Liam Williams yn croesi am ei gais cyntaf dros ei wlad, felly hefyd y mewnwr Rhodri Williams ddaeth ar y maes feil eilydd yn yr ail hanner.
Roedd yna gais hefyd i’r wythwr Taulupe Faletau ac fe gyfrannodd Biggar 11 pwynt cyn ildio’r dyletswyddau cicio i James Hook a lwyddodd i drosi cais olaf y prynhawn