Er mai Cymru oedd y ffefrynnau clir, fe fethodd tîm Warren Gatland a chofnodi pwynt yn yr ail hanner, wrth i chwarae pwerus a chyflym Lloegr sgubo eu gwrthwynebwyr o’r neilltu.
Ac ar sail y perfformiad yma, mae tasg aruthrol yn wynebu Gatland a’i dim hyfforddi wrth iddyn nhw geisio codi ysbryd ei dim ar gyfer gweddill y Chwe Gwlad – heb son am Cwpan y Byd.
Ni chafwyd unrhyw arwydd o’r siom roedd yn aros y Cymry yn y dorf a thu hwnt. Cyn y gêm cafwyd sioe oleuadau i ddifyrru’r dorf yn ogystal ar corau meibion traddodiadol.
Ac os mai cymysg oedd yr ymateb i’r adloniant cyfoes, y Saeson yn amlwg oedd wedi cael eu dallu wrth i Gymru fwynhau’r saith munud agoriadol perffaith.
Rhoddodd Leigh Halfpenny Cymru ar y blaen gyda chic cosb wedi munud yn unig, ac roedd cefnogwyr Cymru ar ben ei digon chwe munud yn ddiweddarach wrth i Rhys Webb groesi am gais cyntaf y gystadleaueth eleni.
Ond i Taulupe Faletau oedd y diolch ar iddo godi o fôn y sgrym o bum llath ac yntau dan bwysau, ac wedyn ennill tir cyn bwydo’r mewnwr gda’r llinell gais o’i flaen.
Ychwanegodd Halfpenny y pwyntiau ychwanegol gan fwydo’r disgwyliadau’r dorf.
Ond ar ôl yr ysgytwad agoriadol fe ddangosodd Lloegr nad oedden nhw am ail fyw hunllef 2013 pan chwalwyd Robshaw a’i dîm.
Corlanwyd Cymru yn eu 22ain gan cic cosb Ford a phan greodd Billi Vinipola bwlch yn amddiffyn Cymru fe gaglodd Anthony Watson cic destlus Mike Brown gan guro Jonathan Davies i’r bel er mwyn titio yn y gornel.
Methodd Ford y trosiad ond fe lwyddodd Halfpenny i ymestyn y fantais gyda chic gosb wrth i’r Saeson droseddu eto yn ardal y dacl.
Roedd y sgrym y Cymry, fodd bynnag o dan bwysau, ac ôl i’r rheng flaen gael eu cosbi am yr eildro roedd cic Ford yn gywir i ddod ai dim o fewn pum pwynt i’r gwrthwynebwyr.
Ffyrnig nd bratiog oedd y chwarae, er i Loegr edrych yn fygythiol ar brydiau ac roedd Cymru yn falch o weld cic adlam Biggar yn hwylio trwy’r pyst ar ddiwedd yr hanner cyntaf, yn enwedig ar ôl i Halfpenny o bawb fethu cyfle gymharol hawdd at y pyst munudau ynghynt.
Ond yn fe ddaeth tro ar fyd ar ddechrau’r ail hanner wrth i Loegr lynu at y dacteg o yrru ymlaen trwy’r blaenwyr sydd wedi profi mor ffrwythlon ar hyd y blynyddoedd.
O’r gic cyntaf mi gadwodd Lloegr yn bel yn dyn wrth y blaenwyr gan ennill tir yn effeithiol ac ar ôl sawl cymal o chwarae roedd cais yn anorfod a ‘r canolwr Jonathan Joseph gafodd y fraint o groesi i dawelu’r dorf ac eithrio y canran sylweddol o Saeson yn eu plith.
Roedd Cymru ar chwâl. Methodd Hibbard ei ddyn yn y llinell ac fe ildiwyd cic cosb arall, ac er i Ford fethu, roedd gwaeth i ddod wedi awr o chwarae.
Unwaith eto fe fethodd Cymru a dygymod a chwarae grymus Lloegr, a’r tro hyn y dylanwadol James Haskell –achosodd y difrod. Dim ond y postyn wnaeth ei tal rhag tirio ar ôl iddo hollti’r amddiffyn. Er na chaniatawyd y cais, mi dderbyniodd Alex Cuthbert cerdyn melyn am fethu a chodi o’r dacl, a Ford gafodd y dasg syml o roi ei dim ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
A hwythau ar y troed blaen, nid oedd Robshaw a’i dim am ildio’r fantais ar unrhyw gyfrif ac fe ffrwynwyd y Gymru yn hynod effeithiol a phrin y gwelwyd Cymru yn bwgwth yn hanner y Saeson.
Fe diriodd Attwood gyda phum munud yn weddill ond mi gafodd y cais ei wrthod yn dilyn trafodaeth hir gyda’r dyfarnwr fidio. Nid bod hynny yn fawr o gysur.
Roedd y ffaith i Gymru dreulio’r pum munud oedd yn weddill yn eu hanner eu hunain yn dweud cyfrolau, a phan laniodd Ford cic cosb o bell yn y munudau olaf roedd buddugoliaeth haeddiannol Lloegr yn gyflawn.
Cymru yn colli eu ffordd
Fe ddechreuodd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS 2015 yn y ffordd waethaf posib, wrth i Chris Robshaw arwain ei dim i fuddugoliaeth wych yn Stadiwm y Mileniwm.