Mae’r canlyniad yn golygu bod Lloegr mewn peryg gwirioneddol o fethu a chyrraedd y rowndiau terfynol wrth iddyn nhw lyfu eu clwyfau cyn wynebu Awstralia ymhen wythnos.
Ar ddau achlysur yn ystod y gêm roedd y Saeson 10 pwynt yn glir diolch yn bennaf i’w goruchafiaeth yn y sgrym ar lein a chicio cywir eu maswr Owen Farrell – ond gwrthod ildio gwnaeth Sam Warburton a’i dim.
Trwy gydol yr wythnos cyn y gêm roedd yr holl siarad yn canolbwyntio ar benderfyniad dadleuol hyfforddwr Lloegr Stuart Lancaster i ddewis Sam Burgess yng nghanol cae a Farrell ar draul George Ford. Ond rhif 10 Dan Biggar oedd arwr y gêm gyda’I cicio ddilychwyn yn sicrhau’r fuddugoliaeth hanesyddol.
Fe gadwodd Biggar ei ben ym merw gwyllt gem hynod gorfforol er mwyn cadw ei dim o fewn cyrraedd pan oedd eu gwrthwynebwyr yn mwynhau goruchafiaeth glir yn enwedig pan groesodd Jony May am gais yn yr hanner cyntaf.
A gyda 10 munud yn weddill, fe ddaeth yr eiliad o hur a lledrith wrth i’r eilydd Lloyd Williams ac yn chwarae ar yr asgell, fesur ei gic i gyfeiriad y pyst yn berffaith gan alluogi Gareth Davies y mewnwr i gasglu a phlymio dros y llinell i adael Lloegr yn syfrdan.
Fe ddaeth trosiad Biggar y ddau dîm yn gyfartal a gydag wyth munud yn weddill roedd y gêm wedi troi ar ei uchel.
Roedd Cymru wedi llwyddo i frwydro yn ôl er gwaetha’r ffaith iddyn nhw golli Scott Williams, Liam Williams a Hallam Amos trwy anaf – achos pryder o gofio bod y Fijaid yn ymweld a Chaerdydd ymhen pedwar diwrnod.
Fe lwyddodd Biggan gyda gôl gosb anferthol o ran hyd a phwysau – ond fe gafodd Lloegr gyfle euraidd i ddod yn gyfartal. Ond yn hytrach na throi ar Farrell er mwyn sicrhau tri phwynt hawdd fe benderfynodd y capten Chris Robshaw i fynd am y llinell a phum pwynt i ennill y gêm.
Fe brofodd yn benderfyniad annoeth i ddweud y lleiaf pan lwyddodd Cymru i wrthsefyll y llinell a sicrhau’r meddiant o’r sgrym derfynol.
Roedd y Saeson ar ei gliniau, eu cefnogwyr yn fud a Chymru gyfan mewn stad o anghrediniaeth orfoleddus.