Er i’r Gwyddelod godi i’r ail safle y dilyn y fuddugoliaeth yn Stadiwm y Mileniwm tair wythnos yn ôl, roedd y tîm Cymru yn Nulyn yn un llawer mwy profiadol gan ddangos eu bod nhw yn barod unwaith eto i herio’r goreuon.
Cais gan seren y gêm Justin Tipuric a pwyntiau o droed Leigh Halfpenny ddaeth a rhediad naw gem heb golli Iwerddon yn Stadiwm Aviva i ben, a hynny wrth i’w capten Paul O’Connell chwarae ei gêm gartref olaf dros ei wlad.
Er mai Cymru oedd yn arwain am y rhan fwyaf o’r gêm hynod gystadleuol, bu bron i’r Gwyddelod gipio’r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf wrth i Sean Cronin groesi ond methu a thirio’r bel diolch i waith amddiffynnol campus gan Aaron Jarvis a Halfpenny.
Fe ddechreuodd Cymru ar dan gan agor bwlch o 10 pwynt o fewn 26 munud gyda Tpuric yn croesi yn dilyn cyfnod hir pan oedd llinell gais y Gwyddelod o dan warchae.
Mi gafodd y prop ifanc Tomos Francis gem gofiadwy yn ei gem gyntaf dros ei wlad wrth i’r blaenwyr osod llwyfan i’r olwyr gyda gwaith di-flino yn ardal y dacl ac yn yr agweddau tynn.
Er i Iain Henderson groesi am gais yn hwyr yn yr hanner cyntaf, Cymru oedd yn rheoli wedi’r egwyl ac roedd tîm Warren Gatland yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth fydd yn cynnal y momentwm wrth i Gwpan y Byd agosáu.