Cafwyd perfformiad effeithlon gan Gymru yn erbyn tîm a oedd yn cynnwys y canolwr Michele Campagnaro a gafodd berfformiad disglair wrth iddo sgorio dau gais yn yr ail hanner i gadw’r Eidal yn y gêm ar ôl i Gymru fygwth torri’n rhydd ar ôl bod ar y blaen gyda sgôr o 17-3 ar yr hanner.
Sgoriodd Alex Cuthbert a Scott Williams geisiau i Gymru, a daeth gweddill y pwyntiau o droed Leigh Halfpenny.
Cafodd yr Eidalwyr ddechrau trychinebus wrth iddynt ildio cais yn y ddwy funud gyntaf, ond nid oedd hynny wedi eu digalonni, a llwyddodd yr ymwelwyr i gadw Cymru dan bwysau nes y chwiban olaf.