Ar noson wlyb a gwyntog dangosodd pac Cymru ei oruchafiaeth, gan chwalu sgrym y Gwyddelod wrth i’r propiau Nicky Thomas a Nicky Smith chwarae rhan allweddol, yn enwedig yn yr ail hanner.
Gyda’r tywydd yn cael cymaint o effaith ar y chwarae, nid oedd hon yn gêm bert ac roedd Ethan Davies a maswr Iwerddon, Ross Byrne, yn cael trafferthion â’u cicio yn yr hanner cyntaf. Yr unig bwyntiau a sgoriwyd cyn yr hanner oedd un gôl gosb gan Davies, ond roedd perfformiad arbennig gan y tîm yn yr ail hanner wedi sicrhau’r fuddugoliaeth i Gymru.
Ychwanegodd Davies chwe phwynt arall yn fuan ar ôl yr hanner, ond daeth yr eiliad allweddol pan lwyddodd capten Cymru, Steffan Hughes, i groesi ar gyfer unig gais y gêm. Gorffennodd canolwr y Scarlets symudiad a oedd yn dilyn hyrddiad pwerus arall gan y blaenwyr, a llwyddodd Davies â’r trosiad er mwyn rhoi ei dîm yn gyfforddus ar y blaen.
Roedd angen i Iwerddon ymateb yn gyflym, ac er i’r tîm cartref sicrhau’r rhan fwyaf o’r meddiant yn y chwarter olaf, methodd y Gwyddelod â sgorio pwynt wrth i Gymru gael buddugoliaeth haeddiannol.