Os nad oedd hyn yn ddigon i danlinellu maint y dasg fydd yn wynebu Cymru ymhen ychydig wythnosau wrth iddyn nhw herio’r Wallabies a Lloegr yn Nghwpan y Byd, fe fydd y pefformiad yn eu gem baratoadol yr erbyn Iwerddon, hefyd wedi sobri Warren Gatland a holl aelodau’r garfan.
Roedd yna wedd newid i dîm Gatland wrth iddo gyflwyno pedwar cap newydd gyda Tyler Morgan ac Eli Walker yn cael cyfle i ddangos eu doniau ymhlith yr olwyr. Ac ymysg y blaenwyr roedd Dominic Day a Ross Moriarty yn gobeithio creu argraff ar y tîm hyfforddi.
Mae Cymru wedi gwneud yn fawr o’r ffaith iddyn nhw dreulio’r haf gyda dwyster nas gwelwyd erioed o’r blaen. Os felly, o’r dystiolaeth o’r hyn a welwyd yn yr hanner cyntaf, mae rhywun yn brawychu wrth geisio meddwl be yn union mae’r Gwyddelod wedi bod yn ei wneud yn y cyfamser.
Chwalwyd Cymru yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw garlamu 25 ar y blaen a hynny yn ddi ateb cyn i Richard Hibbard groesi i’r tîm cartref ar ddiwedd yr hanner yn dilyn symudiad syml a destlus yn y llinell.
Cyn hynny doedd dim i godi calonnau’r mwyafrif yn y dorf o 75,000.
Capten y Gwyddelod oedd y cyntaf i groesi ar ôl 9 munud yn dilyn camgymeriad gan capten Cymru am y dydd Scott Williams. Fe ildiodd y canolwr y meddiant o sgrym yn ei 22 ei hyn, ac o’r eiliad honno roedd Cymru o dan bwysau gan ganiatau i’r wythwr groesi am gais hawdd.
Ychwanegodd Paddy Jackson tri phwynt arall cyn i Darren Cave dorri trwy amddiffyn Cymru o sgrym ymosodol a gyda’r trosiad roedd yr ymwelwyr 15 pwynt ar y blaen wedi 23 munud.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wedi hanner awr, wedi i Walker dderbyn tacl grymus gan Andrew Trimle wrth i Gymru geisio rhedeg y bel o hanner eu hunain. Fe adlamodd y bel yn garedig i ddwylo Keith Earls gan alluogi’r canolwr i groesi am yn hamddenol o 30 llath.
Bu bron i Gymru ildio cais munud yn ddiweddarach a dim ond tacl arwrol gan y capten Williams rwystrodd Felix Jones rhag tirio yn y gornel ar ôl i bas Hibbard yng nghanol cae fethu a chyrraedd dyn mewn coch.
Fe lwyddodd Jackson throsiad a chic gosb arall cyn i Hibbard estyn llygedyn o obaith cyn yr egwyl.
Taulupe Faletau oedd yr unig newid i rengoedd y Cymru ar ol troi ac unwaith eto roedd dwylo bregus a methiant i gyflawni’r sgiliau elfennol, ynghyd a phresenoldeb Heaslip yn y man iawn ar yr amser iawn, yn atal Cymru rhag gwneud unrhyw argraff.
Fe wnaed y dasg anodd yn anoddach wedi 46 wedi i Moriarty dderbyn cerdyn melyn am dacl beryglus ac fe manteisiodd Iwerddon yn llawn gyda’r eilydd Simon Zebo yn croesi i roi ei dim 30-7 ar y blaen.
Ymlaen daeth Lloyd Williams a Gareth Anscombe (gyda’r maswr yn ennill ei gap cyntaf) i geisio atal y llif gwyrdd. Ond cyn iddyn nhw cael amser i gael unrhyw ddylanwad fe groesodd Jones am gais dda arall i dim Joe Schmidt wedi 54 munud.
Gyda 20 munud yn weddill roedd eilyddion Cymru i gyd ar y cae wedi i’r capten Williams ildio ei le i Matthew Morgan yn dilyn anaf i’w bigwrn. Ond a hwythau ond yn wynebu 14 dyn ar ôl i Chris Henry weld cerdyn melyn gan Glen Jackson am atal y bel yn y dacl unwaith yn ormod roedd Cymru yn parhau i cael hi’n anodd i dorri llinell amddiffynnol y Gwyddelod.
Ond roedd yr ail gais, pan y daeth, yn un odidog gyda Tipuric yn gorffen symudiad gwefreiddio lawr yr asgell chwith wedi chyfraniadau hyfryd gan Tyler Morgan a Hallam Amos. Fe dorrodd Anscombe y fantais i 21gyda’i drosiad.
Taflwyd cysgod dros fuddugoliaeth y Gwyddelod fodd bynnag pan adwaodd y blaenasgellwr Tommy O’Donnell ar y sretcher symudol ac yntau yn amlwg mewn cryn boen.
Gyda’r fuddugoliaeth yn sicr, nid oedd hi’n syndod i weld gafael y Gwyddelod yn llacio yn yr eiliadau diwethaf. Ac er i Alex Cuthbert groesi yn y gornel gyda symudiad olaf y gêm, nid oedd hynny – na chwaith trosiad campus Anscombe, yn ddigon i guddio’r ffaith bod perfformiad Cymru wedi bod yn un hynod siomedig