Rhaid canmol gwaith amddiffynnol y Dreigiau fodd bynnag. Roedd tîm Lyn Jones dan bwysau trwy gydol y gêm a dim ond cyfuniad o ddygnwch amddiffynnol y Dreigiau a thueddiad y Gweilch i wastraffu cyfleoedd oedd yn gyfrifol am y ffaith nad oedd unhryw sgôr ar yr egwyl.
Y gw?r o Went aeth ar y blaen n yr ail hanner pan dorrodd Richie Rees yn glir i dirio yn erbyn llif y chwarae.
Ychwanegodd Kris Burton y pwyntiau ychwanegol cyn i Dan Biggar gofnodi pwyntiau cyntaf y Gweilch gyda chic gosb.
Gydag ugain munud yn weddill aeth y Gweilch ar y blaen pan groesodd Tom Habberfield o fôn y sgrym ac er i Biggar lwyddo gyda’r trosiad fe ddaeth y Dreigiau yn gyfartal gyda chic gosb gan Tom Prydie.
Ond fe gosbwyd rheng flaen y Dreigiau gan Biggar wrth iddyn nhw ddod o dan bwysau cynyddol yn y sgrym. Ac yn yr eiliadau olaf fe ddaeth goruchafiaeth y Gweilch yn yr elfen honno i’r amlwg unwaith eto pan ildiodd y Dreigiau cais cosb gan ganiatau Biggar i roi ei dîm 10 pwynt ar y blaen ar chwiban olaf Nigel Owens.