Roedd y sgôr yn record i Gymru mewn gemau yn erbyn yr Ariannin, ac roedd hi’n achlysur arbennig i’r prop Gethin Jenkins oedd yn ennill ein100fed cap gan efelychu Stephen Jones, Gareth Thomas a Martyn Williams.
Er i’r ymwelwyr geisio chwarae gêm ymosodol ac agored o’r dechrau prin oedd y bygythiadau i linell Cymru. Ac ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd Cymru ar y blaen yn gyfforddus 23-3 diolch i geisiai Mike Phillips a George North a 13 pwynt o droed Leigh Halfpenny.
Partwm tebyg a welwyd wedi’r egwyl gyda Chymru yn llwyddo i gadw’r Pumas rhag groesi’r gwyngalch er mwyn cofnodi buddugoliaeth bwysig er mwyn magu hyder am weddill y gyfres.