Cadwodd Leigh Halfpenny y Cymry yn y gêm diolch i’w annel cywir, ond mewn gwirionedd, a’r ymwelwyr heb fygwth croesi’r llinell gais o gwbl, roedd Lloegr yn haeddu ennill y gêm.
Sgoriodd Danny Care a Luther Burrell geisiau dros Loegr yn yr hanner cyntaf, ond bob tro yr oedd y tîm cartref yn bygwth torri’n rhydd roedd diffyg disgyblaeth y Saeson wedi rhoi cyfleoedd i Gymru aros o fewn cyrraedd, a llwyddodd y dibynadwy Halfpenny â phum gôl gosb er mwyn lleihau goruchafiaeth y crysau gwynion i sgôr o 20-15 yn unig ar yr hanner. Dyma’r tro cyntaf erioed i gyfanswm o 35 o bwyntiau gael eu sgorio mewn gêm ryngwladol rhwng y ddau dîm yn yr hanner cyntaf.
Roedd angen i Gymru gael dechrau da i’r ail hanner, ond Lloegr oedd â’r oruchafiaeth. Collodd y dyfarnwr Romain Poite amynedd â sgrym Cymru gan anfon Gethin Jenkins i’r gell gosb. Cosbodd Farrell y Cymry gyda’i gicio.
Yn dilyn tacl beryglus Dylan Hartley ar Taulupe Faletau, a oedd yn cael gêm dawel o’i chymharu ag arfer, cadwodd Halfpenny ei dîm yn y gêm gyda gôl gosb o bellter i ddod tri phwynt yn nes at y Saeson.
Ond pan oedd yn ymddangos bod Cymru yn dod yn ôl i mewn i’r gêm, cafodd Jonathan Davies ei gosbi’n syth am ddefnyddio ei ddwylo yn y ryc, a pharhaodd Farrell â’i gicio di-ffael gan roi Lloegr ar y blaen gyda sgôr o 29-18 ar ôl 60 munud.
Ceisiodd y Cymry gael eu gwynt atynt, ond llwyddodd Lloegr i’w cadw allan wrth i’r tîm cartref ddial am grasfa o 30-3 a gafodd yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm y llynedd