Roedd tîm Rachel Taylor yn bygwth yn ystod y chwarter cyntaf gan gyfyngu mantais Lloegr i dri phwynt yn unig gyda sgôr o 6-3, ond wedi i Emily Scarratt sgrialu drosodd am ei chais cyntaf ar ôl 23 munud, llwyddodd y Saeson i dorri’n rhydd a chosbi Cymru gyda’u dawn anhygoel i orffen symudiadau.
Sgoriodd Robyn Wilkins gôl gosb ar ôl 19 munud mewn ymateb i ddwy gôl gosb gynharach gan Loegr, ond dyna oedd unig sgôr Cymru.
Ar ôl 23 munud roedd symudiad chwim gan yr olwyr a oedd yn cynnwys Amber Reed a Rachael Burford wedi creu’r lle i Scarratt sgorio ei chais cyntaf o’r noson, ac yn fuan wedyn sgoriodd ei hail gais.
Wrth i’r cloc groesi’r deugain roedd Cymru yn euog o fethu â dod o hyd i’r ystlys a derbyniodd merched Lloegr yr her gan wrthymosod cyn i’r profiadol Scarrett roi’r cyfle i Kay Wilson sgorio cais a rhoi ei thîm ar y blaen gyda sgôr o 23-3 ar yr hanner.
Sgoriodd merched Lloegr eu pedwerydd cais drwy’r eilydd o asgellwr Natasha Brennan, a sgoriodd gais gyda’i chyffyrddiad cyntaf yn ei gêm gyntaf dros ei gwlad.
Yr hen ben Maggie Alphonsi a sgoriodd bumed cais Lloegr, a’r cais olaf, wrth i Gymru golli pedair gêm allan o bedair