Neidio i'r prif gynnwys
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr

Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr

Ar faes oedd yn dioddef oherwydd effaith y tywydd yn ddiweddar ym Mae Colwyn, Ffrainc a orfu o 38 pwynt i 3 a thrwy hynny sicrhau y Gamp Lawn yn gwbl haeddiannol.

Rhannu:

Braf yw cael nodi o leiaf, bod y Cymry wedi brwydro yn ddygn iawn, a heb os, petaent wedi dangos y math yma o ymroddiad a dyfalbarhad yn erbyn yr Eidal a’r Gwyddelod fe fyddent yn saff o fod llawer yn uwch yn y tabl. Profa hyn mae llinell denau ryfeddol sydd rhwng llwyddiant a methiant ar y lefel hwn.

Wedi agoriad bywiog gan y ddau dîm daeth y pwyntiau cyntaf wedi chwech munud pan ymgeisiodd y Cymry gicio allan o’i dauddeg dau. Yn anffodus disgynnodd y bêl i ddwylo medrus yr asgellwraig Cyrielle Banet a wrthymosododd gyda phwrpas a gweu ei hun allan o nifer o ymdrechion i’w thaclo, cyn  bwydo y fewnwraig Pauline Bourdon a lwyddodd i redeg i mewn i sgorio cais hawdd wedi chwe munud. Daeth y gefnwraig Jessy Tremouliere  ymlaen i ychwanegu y trosiad, a rhoi saith pwynt o fantais i’r ymwelwyr.

Ciciodd Robyn Wilkins yn ddigon dyheug i leddfu’r pwysau yn dilyn hyn ond wedi deng munud, camodd Caroline Drouin yn llawer rhy hawdd drwy fwlch ar y dauddeg dau a llwyddo i gyrraedd y linell gais heb i weddill y Cymry ddod yn ôl i’w rhwystro. Daeth Tremouliere i’r adwy i drosi y trosiad unwaith eto, a gyda pedwararddeg pwynt ar y bwrdd wedi unarddeg munud ‘roedd y cyfan yn edrych yn ddu ar y Cymry.

Diolch byth, a phob clod i’r Cymry, fe ddaethant nôl i’r frwydr o’r funud honno gan roi pwysau ar y Ffrancwyr am o leiaf ddauddeg pump munud o’r hanner. Cafwyd nifer o gyffyrddiadau hyfryd gan Jess Kavanagh Williams ar yr asgell a bu y prop Amy Evans yn brysur yn hyrddio at galon y gwrthwynebwyr. Gweithiodd y sgarmes symudol yn dda gyda Sioned Harries yn flaenllaw ymhob agwedd o’r chwarae. Cafwyd sawl cic dreiddgar gan Robyn Wilkins ond yn anffodus hefyd collwyd Alisha Butchers, a gafodd bencampwriaeth i’w chofio i anaf wedi ugain munud.

Mawr hyderwn na fydd hyn yn ei rhwystro rhag cynrychioli ei gwlad yn Chwaraeon y Gymanwlad ar y Traeth Aur ymhen ychydig wythnosau. Nia Elen Davies ddaeth i’r adwy ac yn wir fe lwyddodd hi i lenwi’r bwlch yn gymeradwy dros ben am yr awr oedd i ddilyn.

O barhau i gynnal y pwysau ‘roedd y Cymry yn dechrau gofyn cwestiynau o’r Ffrancwyr a medrai y ddyfarnwraig o’r Eidal, a gafodd gêm i’w chanmol yn fawr ar y cyfan, fod o bosib wedi dyfarnu cerdyn melyn yn dilyn dau achos o daro ‘mlaen bwriadol yn ystod y cyfnod mwyaf llewyrchus hwn i’r Cymry.

Yn dilyn trosedd ar y llawr gyda pum munud yn weddill o’r hanner, fe lwyddodd Robyn Wilkins i drosi yn rhwydd a rhoi pwyntiau cyntaf y Cymry ar y sgorfwrdd.

Yn fuan ‘roedd Ffrainc nôl yn ymosod a cafwyd tacl effeithiol gan Jess Kavanagh Williams ar ei capten Gaelle Hermet, gyda’r rheng flaen o Amy Evans a Caryl Thomas, a oedd yn ennill ei hanner canfed cap yn parhau i daclo a chau pob drws i’r ymwelwyr.

Fel ‘roedd un yn amau, rhoddwyd yr argraff drwyddi draw bod modd i Ffrainc godi eu gêm pan oedd angen a gwelwyd enghraifft o hyn fel ‘roedd yr hanner yn dod i’w derfyn. Wedi bod yn ddi bêl ac yn eu hanner eu hun i bob pwrpas am hanner awr fe darwyd ergyd dyngedfennol i’r Cymry pan fylchodd y ganolwraig gryf Carla Neisen, a pan sgubwyd y bêl i’r tir agored ‘roedd digon o le i Jessy Tremouliere i dderbyn tacl ac ymestyn dros y linell i ymestyn y fantais i un pwynt ar bymtheg.

Bu’r ail hanner yn gystadleuol o’r cychwyn gyda pac Cymru yn mynd yn dda drwy eu sgarmes symudol. Er hyn ‘roedd nifer o ymosodiadau addawol yn dod i ddim oherwydd fod y bêl olaf naill a’i yn wallus neu fod y Cymry yn troseddi yn ddiangen yn eu rhwystredigaeth.

Deg munud i mewn i’r ail hanner gwelwyd yr asgellwraig Caroline Boujard yn dilyn ei chic i’r gornel ac wrth ei bwrw mlaen dros y linell yn fwriadol, daeth Jasmine Joyce nôl i’w rhwystro rhag tirio cyn Hannah Jones, â hynny yn anghyfreithlon. Cyflwynodd hyn gais cosb i’r ymwelwyr a cherdyn melyn i Joyce yn dilyn mewnbwn y TMO.

‘Roedd disgwyl sicr i’r fantais ymestyn yn fuan wedyn yn dilyn bylchiad arall ond daeth Hannah Jones o rywle i gwblhau tacl ardderchog a gyda chymorth Alecs Donovan fe rwystrwyd yr ail gylchu. Yn wir ‘roedd Hannah Jones yn gystadleuol a dylanwadol ar y cyfnod a bu ei cholled yn dilyn gorfod gadael y maes i dderbyn asesiad pen yn amlwg. Ond parhau i osod pwysau wnaeth Ffrainc ac yn sydyn gwelwyd y pac mawr yn hyrddio tua’r linell gyda’r bachwr Agathe Sochat yn casglu a gyrru yn benderfynol dros y linell. Bu anel Tremouliere yn gywir y tro hwn i ychwanegu’r dau bwynt ychwanegol a chroesi y deg pwynt ar hugain.

Daeth nifer o eilyddion i’r cae i’r ddau dîm, yn enwedig yn y pac ond ni newidiwyd rediad na llif y chwarae. Gweithiodd pawb o’r Cymry yn galed i geisio newid eu ffortsiwn ond doedd y Ffrancwyr ddim mewn hwyliau ewyllysgar.

Ar gyrraedd saithdeg munud, cafwyd symudiad slic ymysg cefnwyr Ffrainc gyda’r asgellwraig Boujard, pan yn cael ei thaclo, yn canfod Carla Neisen ar yr ochr mewn i adael hithau groesi’n ddirwystr am gais gwych a dybli y cyfanswm pwyntiau ‘roedd ganddynt ar yr hanner.

Brwydrodd y Cymry i’r diweddd gyda Kelsey Jones yn cael ychydig funudau ar y terfyn ar draul y capten Carys Phillips, gan ddangos digon o awch am y frwydr. Er hyn, man ddewisiadau anghywir lethodd y Cymry gyda pasio slic a chyd-ddealltwriaeth y Ffrancwyr yn haeddiannol gario’r dydd a thrwy hynny yn cipio’r Gamp Lawn am y tymor.

Pauline Bourdon y fewnwraig ddyfarnwyd fel chwaraewraig y gêm gyda Carla Neisen yn dynn ar ei sodlau mi dybiwn, yna Sioned Harries o bosib o blith y Cymry yn haeddu clod arbennig.

Efallai fod safle y Cymry yn y tabl yn rhoi’r argraff eu bod gryn dipyn ar ei hôl hi ond ar y lefel hon mae’r linell rhwng colli ag ennill yn denau ag o fagu ychydig mwy o hyder a derbyn y cyfran cyfartal o lwc fe fedrai gwedd y cyfan newid yn fuan. Efo lwc,  fe ddigwydd hynny, er mwyn ini weld y crysau coch yn gystadleuol a bygythiol o fewn y cwmni yma i’r dyfodol.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Rhino Rugby
Sportseen
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr
Amber Energy
Opro
Menywod Cymru yn methu a gwarafun y Gamp Lawn i’r Ffrancwyr