Neidio i'r prif gynnwys
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd

Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd

Siomedig oedd gweld y Cymry yn methu a chynnal y dwysder oedd ei angen i drafferthu y Gwyddelod i’r eithaf yn Donnybrook ar ôl gweithio mor galed i ddod yn ôl i’r frwydr ar ddechrau’r ail hanner.

Rhannu:

Bu profiad rhai o’r Gwyddelod mwyaf dylanwadol yn ddigon i ymestyn y fantais i 35 pwynt i 12 ar y diwedd, a rhoi gogwydd camarweiniol ar natur y gêm yn ei chyfanrwydd.

‘Roedd y Cymry yn fentrus o’r cychwyn gyda Elinor Snowsill yn cicio yn effeithiol i osod llwyfannau delfrydol i ymosod ohonnynt. Gwelwyd Jess Kavanagh Williams yn fwyiog a heriol ar yr asgell a’r holl reng ôl yn weithgar a chefnogol.

Er hyn, canfod eu hunain ar i hôl hi wnaethbwyd wedi chwarter awr pan i Ailsa Hughes, y fewnwraig, ganfod bwlch, ennill tir a rhoi y Gwyddelod ar y droed flaen. O linell ychydig fetrau yn brin sefydlodd y Gwyddelod sgarmes symudol effeithiol ac ymhen dim ‘roedd y prop Leah Lyons, a gafodd brynhawn i’w ganmol, wedi tirio. Ymestynwyd y fantais gan i Niamh Briggs drosi o ongl ddigon anodd.

Yn dilyn hyn brwydrodd y Cymry yn ôl, gyda’r sgrym yn gweithio yn dda a sawl symudiad addawol yn ennill tir. Er hyn, pan oedd gwir angen mesur o reolaeth, yn anffodus fe fethodd y Cymry a sicrhau hynny, gyda’r gwaith rhagarweiniol da yn cael ei ddat-wneud yn llawer rhy aml gan bas wael neu achos o golli meddiant yn ddiangen.

Fel i’r hanner cyntaf ddod i’w derfyn,yn anffodus fe ddechreuwyd hefyd gael trafferth i reoli y sgrym a thrwy hynny golli safleoedd ymosodol gwych.

‘Roedd y Gwyddelod unwaith eto felly wedi llwyddo, drwy gyfuniad o lwc a  dyfeisgarwch, i warchod eu llinell gais a chymhlethwyd tasg y Cymry yn fwy, pan o symudiad olaf yr hanner cafwyd bylchiad gwych gan y ganolwraig Sene Naoupu a allodd wedyn fwydo Katie Fitzhenry, gyda’i ffug bas hithau yn dod a hi o fewn trwch blewyn o’r linell.

Gwelwyd profiad a chlinigrwydd y Gwyddelod ar ei orau wrth i’r capten Claire Molloy gasglu a gyrru trosodd.

Llwyddodd Niamh Briggs i drosi unwaith eto i ddod ar hanner i ben gyda’r Gwyddelod  bedairpwynt ar ddeg i ddim ar y blaen.

Anodd ar y pryd oedd gweld ffordd yn ôl i’r Cymry ond yn syth o’r ail ddechrau trawsnewidiwyd gwedd y gêm gyda dau gais sydyn i’r crysau coch. ‘Roedd Alisha Butchers yn brysur ac effeithiol yn croesi y llinell fantais ac o sgarmes symudol yn agos i’r linell gwelwyd y prop Amy Evans yn cyfrannu’r trydydd hyrddiad i groesi wrth fôn y postyn.  Llwyddodd Elinor Snowsill i drosi ond methodd ag unioni’r sgôr pan yn ymdrechu i drosi cais unigol gwych Sioned Harries funudau yn ddiweddarach. Llwyddodd Harries i weu llwybr yn ddyheug i’r linell gais gan ryddhau ei hun o ddwy dacl cyn carlamu drosodd yn weddol agos i’r lliman gornel.

Yn rhan o’r digwyddiad, dyfarnwyd cerdyn melyn i brop y Gwyddelod Lindsay Peat am dacl uchel felly ‘roedd gobeithion y crysau coch yn uchel yn anelu am y chwarter awr olaf.

Fel sy’n digwydd yn aml, mae digwyddiad o’r fath yn medru sbarduno y gweddill yn fwy, a dyma yn union ddigwyddodd fan hyn, wrth i’r Gwyddelod unwaith eto gau pob drws ‘roedd y Cymry yn ceisio ei ddatgloi. Yn wir pan lawr i bedwararddeg fe sgoriwyd cais gorau’r pnawn o ddigon wrth i Briggs drosglwyddo’r bêl yn gelfydd i Sene Naoupu gyda hithau wedyn yn hollti’r amddiffyn a gwibio i mewn o ugain meter. Trosodd Briggs eto i ymestyn mantais y tîm cartref.

Bu Cymru yn lwcus pan ganodd chwib y ddyfarnwraig eiliadau cyn i Molloy dirio eto yn dilyn hyrddiad gan y blaenwyr ond erbyn hyn ‘roedd y crysau gwyrdd yn rhoi yr argraff eu bod yn ymateb yngnghynt i bob sefyllfa. Ymdrechodd Hannah Bluck a Jess Kavanagh Williams i ganfod bwlch gyda Mel Clay yn bylchu yn hyfryd ar gyrion y cae gyda phum munud yn weddill. Ond gan nad oedd cefnogaeth parod wrth law collwyd y cyfleoedd.

Yn achos y Gwyddelod bu’r munudau olaf yn rhai proffidiol gyda’r eilydd Hannah Tyrrell yn hollti’r amddiffyn i sgorio ac yna Claire Molloy, tra yn ennill ei chwedegfed cap, yn gadael yr amddiffyn yn sefyll i redeg mewn o ddegllath ar hugain i sgorio ei hail gais. Cadwyd y record 100% o drosi wrth i Briggs drosi’r cyntaf ac yna, yn ei habsenoldeb, y gefnwraig Kim Flood yn llwyddianus efo’r olaf.

Defnyddiwyd y fainc eilyddion tua’r diwedd gyda munud falch Cara Hope, o Ynys Môn yn wreiddiol, yn cyrraedd wrth iddi droedio i’r cae am y tro cyntaf yng nghrys ei gwlad. Erbyn hynny yn anffodus ‘roedd hi’n rhy hwyr i neb weddnewid y canlyniad.

Ymhen pythefnos, yr Eidalwyr yng Nghaerdydd fydd y gwrthwynebwyr ac er y siom o golli hon mae carfan yma a all yn rhwydd, o cydchwarae a magu ychydig mwy o hunan hyder ddatblygu i fod yn uned ddigon effeithiol.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Rhino Rugby
Sportseen
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd
Amber Energy
Opro
Profiad y Gwyddelod yn Cario’r Dydd