Sgoriodd Prydie 22 o bwyntiau wrth i dîm Lyn Jones hawlio ei ail fuddugoliaeth â phwynt bonws y tymor hwn, yn Stadio Monigo. Ond roedd yn rhaid i’r rhanbarth sydd wedi cyrraedd rownd gogynderfynol y Cwpan Her gael ychydig bach o lwc, a dibynnu hefyd ar amddiffyn cadarn ar ôl gadael chwaraewyr Treviso yn ôl i mewn i’r gêm wedi iddynt fod 20-0 ar ei hôl hi.
Ni ddyfarnwyd cais i Treviso oherwydd penderfyniad ynghylch camsefyll o drwch blewyn. Pe bai’r cais hwnnw wedi’i ganiatáu a’i drosi, byddai wedi rhoi’r Eidalwyr ar y blaen gyda sgôr o 21-20. Yn lle hynny, rhedodd Prydie ymlaen ddwywaith at giciau i sgorio ceisiau yn ystod y naw munud olaf, a sicrhaodd hynny fuddugoliaeth werthfawr mewn gornest berffaith i baratoi ar gyfer y gêm gogynderfynol yng Nghwpan Her Ewrop y penwythnos hwn yn erbyn Gleision Caerdydd yn Rodney Parade.
Nid yw’r mewnwr Jonathan Evans yn fawr o gorff ond tasgodd oddi ar bob tacl i sgorio’r cais cyntaf, cyn i Amos – a oedd yn amlwg wedi’i ysbrydoli gan berfformiad Cymru yn yr Eidal yr wythnos diwethaf – fentro gwrthymosod o’i hanner ei hun a chyfuno â Jack Dixon a Dorian Jones cyn sgorio cais campus.
O’r diwedd, ar ddechrau’r ail hanner, llwyddodd y tîm cartref i ddod o hyd i ffordd drwy linell amddiffyn y Dreigiau, pan groesodd Enrico Bacchin i sgorio pwyntiau cyntaf ei dîm. Camodd Cory Hill allan o’r llinell amddiffynnol gan greu digon o le i’r canolwr hyrddio drwodd. Troswyd y cais gan Jayden Hayward a rhoddodd hynny lygedyn o obaith i Treviso.
Daeth problemau yn sgrym y Dreigiau i’r amlwg unwaith eto, dyfarnwyd cais cosb i Treviso a rhoddodd hynny hwb i’w hyder. Ond ni chafodd cais Franchesco Minto ei ganiatáu pan darodd cic Bacchin un o’i chwaraewyr ei hun, a llwyddodd y Dreigiau i ailymgynnull a galluogi Prydie i sgorio cais.
Manteisiodd yr asgellwr ar gamgymeriad erchyll gan yr Eidalwyr pan darodd dau o chwaraewyr Treviso yn erbyn ei gilydd wrth redeg ar ôl y bêl. Yna, yn ystod y funud olaf, enillodd Prydie y ras i ddal cic Tyler Morgan, a oedd wedi’i mesur yn berffaith. Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y Dreigiau yn awr yn uwch na’r Gleision yn nhabl PRO12 Guinness.