Diolch i daclo cadarn a di-ildio yr ymwelwyr, fe fethodd Cymru a ychwanegu pwynt wedi’r egwyl hynny ar ol i’r canolwyr Owen Williams ac Ashley Beck groesi yn yr hanner cyntaf gyda chiciau Leigh Halfpenny yn cyfrannu’r gweddill.
Sgoriodd yr asgellwr Will Helu gais i Tonga ac fe lwyddodd y maswr Latimue Fosita gyda’r trosiad i gau’r bwlch ymhellach.
Er iddyn nhw reoli’r chware yn llwyr wedi’r egwyl fe brofodd wal amddiffynnol Tonga yn drech nag ymdrechion tim Warren Gatland. Dyfarnodd y swyddog fidio o blaid yr ymwlewyr ar ddau achlysur gan siomi Hallam Amos a George North ac fe lithrodd y bel o afael Luke Charteris wrth i’r clo geisio tirio i sichrau ail hanner ddi-sgor.
Awstralia fydd yn nawr yn wynebu Cymru yng ngem olaf cyfres yr Hydref.