Neidio i'r prif gynnwys
Tor calon i Gymru

Tor calon i Gymru

Fe ddaeth ymgyrch arwrol Cymru yng Nghwpan y Byd i ben ar ôl i De Affrica ennill gem hynod gyffrous a chorfforol yn rownd yr wyth olaf yn Twickenham.

Rhannu:

Roedd Cymru ar y blaen 19-18 gyda phum munud yn weddill yn dilyn ymdrech amddiffynnol ryfeddol gan y dynion yn y crysau coch – a doedd neb yn fwy amlwg ym merw’r frwydr na’r capten Sam Warburton.
 
Ond ar ôl gwrthsefyll ton ar ôl ton o hyrddiadau gan y cewri yn rhengoedd y Sprinboks, fe ddyfarnodd Wayne Barnes sgrym i Dde Affrica 10 metr o linell Cymru – un o nifer o benderfyniadau dadleuol gan y dyn gyda’r chwiban. Fe gododd Duane Vermeulen o fôn y sgrym ac fe ddenodd Alex Cuthbert o’r asgell cyn rhyddhau Fourie Du Preez ac fe groesodd y mewnwr yn y gornel o dorri calonnau Cymru.
 
Cymru oedd ar y blaen 13-12 ar yr egwyl gyda gôl adlam Dan Biggar ym munud olaf yr hanner yn rhoi’r fantais i’w dim. A Biggar oedd wrth wraidd cais Cymru pan gasglodd ei gig uchel ei hun cyn rhyddhau Gareth Davies gyda phas wych o dan bwysau.
 
Cyn hynny roedd  Handre Pollard wedi cosbi Cymru dair gwaith am eu camweddau yn ardal y dacl ac fe ychwanegodd cic gosb arall cyn yr egwyl.
 
Yn ôl y disgwyl dwysau wnaeth y frwydr wedi’r egwyl, ond rhywsut fe lwyddodd Cymru i ddal eu tir yn wyneb pwysau aruthrol. A phan enillodd Warburton frwydr arall am y bel yn ardal y dacl fe ddaeth cyfle am gic gosb arall ac fe dderbyniodd Biggar y cyfle gan roi ei dim 16-12 ar y blaen.
 
Atebodd Pollard gyda gôl adlam ei hun ac er iddo fethu gyda dau gynnig at y pyst fe lwyddodd gyda chyfle arall i roi ei dim 18-16 ar y blaen. Ond yn ôl y daeth Cymru gyda’r diflino Jamie Roberts ar flaen y gad ac unwaith eto fe gamodd Biggar ymlaen i drosglwyddo’r fantais yn ôl i ddwylo Cymru.
 
Ond gyda’r tensiwn bron yn annioddefol, fe ddyfarnwyd y sgrym dyngedfennol o blaid De Affrica gan selio tynged Cymru yn y gystadleuaeth.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tor calon i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tor calon i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tor calon i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Amber Energy
Opro
Tor calon i Gymru