Ar noson gofiadwy yn y gwynt a’r glaw yn Stadiwm Wellington fe gyfrannodd pob un chwaraewr wrth i Gymru siglo’r pencampwyr i’w seiliau gyda pherfformiad corfforol ac egniol.
Fe ddechreuodd y Sprinboks ar garlam wrth i Frans Steyn groesi yn y gornel yn y munudau agoriadol. Ond fe frwydrodd Cymru yn ôl yn ddygn, a pham dirion yr wythwr Toby Faletau yr ail hanner roedd Cymru yn llygadu eu hail fuddugoliaeth yn unig yn erbyn y crysau gwyrdd ac aur.
Ond fe darodd y Sprinboks yn ol gyda chais gan yr eilydd Francois Hougaard i gipio’r fuddugoliaeth o ddwylo Cymru.
Er y golled, roedd nifer o bwyntiau positif i gysuro’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi wrth iddyn nhw geisio ymdopi gyda’r siom o weld cyfle arall i guro un o dimau hemisffer y de yn llithro o’i gafael.
Roedd Jamie Roberts yn ôl ar ei orau yng nghanol cae, ac fe lwyddodd Rhys Priestland i reoli’r chwarae yn safle’r maswr. Ymhlith y blaenwyr roedd cyfraniad Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn allweddol ac unwaith eto gwelwyd rheng ôl Cymru yn ennill y frwydr yn ardal y dacl.
Doedd pethau ddim yn argoeli’n yn y munudau agoriadol wrth i Steyn ysgubo ymdrechion Shane Williams a James Hook o’r neilltu i groesi am gais cyntaf y gêm.
Fe wnaeth Morne Steyn yn wych yn yr amgylchiadau anodd i drosi o’r ystlys i roi ei dim 7-0 ar y blaen wedi pedwar munud yn unig.
Ond yn raddol fe ddangosodd Cymru bod y gallu ganddyn nhw i greu problemau i’w gwrthwynebwyr, ac fe dderbyniodd Hook gyfle am driphwynt.
Yna cafwyd un o’r eiliadau mwyaf dadleuol y gystadleuaeth hyd yma pan benderfynodd y dyfarnwr a’i lumanwyr bod ymdrech nesaf Hook at y pyst wedi methu, er bod lluniau teledu yn awgrymu bod cic y cefnwr yn un cywir.
Fe lwyddodd Steyne gydag ymdrech ar arall o bell ar ôl i Lydiate gael ei ddal yn camsefyll, ond pan gosbwyd Schalk Burger yn ardal y dacl gan ganiatáu Hook o docio’r fantais i 10-6.
Roedd hyder y Cymry i’w weld yn tyfu wrth i’r egwyl agosáu ac roedd gwell i ddod wedi’r egwyl wrth i blaenwyr Cymru synhwyro bod pac pwerus a phrofiadol y Sprinboks yn gwegian.
Wedi cyfnod o bwyso gan Gymru ar llinell gais y gwrthwynebwyr fe ddaeth Cymru o fewn pwynt i Dde Africa pan ildiodd Butch James cic gosb o flaen y pyst.
Dyma oedd cyfnod gorau Cymru a gyda De Affrica ar chwâl fe amserodd Priestland ei bas yn berffaith i alluogi Faletau i groesi a rhoi Cymru ar blaen am y tro cyntaf.
Hawliodd Hook y pwyntiau ychwanegol ac roedd addewid bod mwy eto i ddod.
Ond yna fe ddangosodd De Affrica pan mai nhw i’w deiliaid Cwpan y Byd wrth iddyn nhw ail-ffurfio a chodi’r tempo unwaith eto.
Ar ôl gwrthod y cyfle i fynd am triphwynt fe sefydlodd y blaenwyr gadarnle yn nwfn yn 22 Cymru. Ac er i Gymru wrthsefyll yr ymosodiadau cyntaf, mi gafodd Francois Hougarard rwydd hynt i groesi o dan y pyst.
Fe aeth trosiad Steyn a’i dîm ar y blaen o un pwynt yn unig gyda deg munud yn weddill.
Yn ôl y daeth Cymru gan roi De Affrica o dan fwy o bwysau. Ond fe wyrodd gôl -adlam Priestland yr ochr anghywir o’r pyst ac fe fethodd Hook gyfle anodd am driphwynt gan ychwanegu at y siom ar y chwiban olaf.