Roedd yna dorf o 71,887 yn Stadiwm y Mileniwm yn gwylio ac fe’u gwobrwywyd gydag wyth cais gan y tîm cartref gyda’r pwynt bonws yn dod yn yr hanner cyntaf.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Uruguay yn y gystadleuaeth ac fe gawson nhw’r dechrau perffaith gyda’r maswr Felipe Berchesi yn llwyddo gyda dwy gol gosb yn yr hanner awr cyntaf.
Roedd taclo yr ymwelwyr yn ddigyfaddawd trwy gydol y gêm gyda Juan Gaminara, Matlas Beer a Alejandtro Nieto yn y rheng ôl yn gwneud bywyd yn anodd i Gymru yn ardal y dacl.
Roedd yn rhaid i Gymru weithio’n galed am ei ceisiai gyda’r canolwr Cory Allen yn hawlio hat-tric yn yr hanner cyntaf cyn ido adael y maes gyda anaf i’w goes sy’n golyg y bydd o’n colli gweddill y gystadleuaeth.
Ychwanegodd y prop Samson lee gais cyn yr egwyl wrth iddo ddychwelyd wedi anaf, cyn i yntau adael y cae ar hanner amser.
Roedd yna fwy o newyddion drwg i Gymru gyda Liam Williams yn gadael ar ôl derbyn coes gwsg wedi 35 munud. A phan adawodd y prop Paul James hefyd yn yr hanner cyntaf roedd fainc eilyddion Cymru yn wag pan ddaeth Lloyd Williams ymlaen yn lle Allen wedi 54 munud.
A bu’n rhaid i James King ddychwelyd i’r cae gyda phum munud yn weddill pan dderbyniodd Dan Lydiate anaf.
Yn y cyfamser fe lwyddodd Cymru i groesi am bedwar cais arall – Hallom Amos yn hawlio ei gyntaf dros ei wlad cyn i’r mewnwr Gareth Davies groesi ddwywaith gyda Justin Tipuric hefyd yn coroni perfformiad diflino arall gyda chais.
Ychwanegodd Rhys Priestland 14 pwynt ond Allen hawliodd tlws chwaraewr amlycaf y gêm, er y bydd hynny fawr o gysur i’r canolwr ifanc wrth iddo orfod gwylio gweddill y gystadleuaeth o’r eisteddle.