Sgoriodd y timau un cais yr un. Rhuthrodd Toby Faletau drosodd i’r tîm cartref, a charlamodd Kristian Dacey dros y llinell gais i’r ymwelwyr, ond troed chwith ddinistriol Tovey oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, wrth iddo lwyddo â phum gôl gosb a throsiad.
Sgoriodd Tovey bwyntiau cyntaf y Dreigiau yn erbyn ei hen dîm gyda gôl gosb yn y drydedd funud, cyn i’r arwr lleol, Toby Faletau, garlamu tuag at y llinell gais ar ôl symudiad a gafodd ei baratoi o’r llinell. Roedd y Dreigiau 10-0 ar y blaen ar ôl y trosiad gan Tovey.
Ar ôl 25 munud o chwarae, gyrrodd Dacey drwy ddau amddiffynnwr a rhedodd 22 metr heb neb i’w rwystro er mwyn rhoi’r cyfle i Leigh Halfpenny gicio trosiad hawdd a ddaeth â’r Gleision o fewn tri phwynt i’r tîm cartref.
Aeth y timau i’r ystafelloedd newid ar yr hanner gyda’r sgôr yn 10-10 wedi i Halfpenny yrru cic gosb rhwng y pyst gyda chic olaf yr hanner cyntaf.
Gwrthodwyd cais i Ashley Smith, gan fod Natani Talei wedi cymryd Rhys Patchell allan o’r gêm mewn ryc cyn i Smith groesi’r llinell. I rwbio halen yn y briw, llwyddodd y Gleision i gyrraedd tir y gwrthwynebwyr cyn rhoi’r cyfle i Halfpenny gicio gôl gosb arall hawdd. Troswyd y gic yn ddiffwdan, gan roi’r Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Daeth Tovey â’r sgôr yn gyfartal 13-13 gyda gôl gosb hyfryd, a rhoddodd maswr y Dreigiau ei dîm yn ôl ar y blaen gyda chic arall ar ôl 53 munud wedi i’r canolwr Pat Leach dorri drwy’r amddiffyn, a arweiniodd at drosedd gan flaenasgellwr y Gleision, Macauley Cook, yn y ryc.
Bu’n rhaid i’r Gleision chwarae ag 14 dyn pan welodd Robin Copeland y garden felen. Synhwyrodd y tîm cartref eu cyfle, ac ar ôl gorfodi camgymeriad arall gan y Gleision llwyddodd Tovey â’i bedwaredd gôl gosb o’r noson.
Roedd pethau’n mynd o ddrwg i waeth i’r Gleision, wrth i droed ddi-ffael Tovey gicio rhagor o bwyntiau i’r Dreigiau ar ôl i Gavin Evans gael ei gosbi am beidio â rhyddhau’r bêl ar ôl i Leach ei lorio â thacl nerthol.
Llwyddodd Halfpenny i leihau mantais y Dreigiau â gôl gosb arall, ond dyna’r agosaf ddaeth y Gleision, wrth i’r Dreigiau ddal eu tir i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol.