Croesodd Hallam Amos a Nic Cudd y llinell gais cyn ac ar ôl hanner amser, cyn i Lloyd Williams ildio cais cosb costus. Roedd Williams, sydd wedi sgorio mwy o geisiau na neb arall yn y twrnamaint, wedi rhoi Gleision Caerdydd ar y blaen yn gynnar, a gwelwyd y bwlch rhwng y ddau dîm yn ehangu pan sgoriodd Gareth Anscombe gais.
Ond nid oedd ymdrech hwyr gan Josh Navidi yn ddigon i atal y Dreigiau – sef gelynion lleol pennaf y Gleision – rhag cael lle yn rownd gynderfynol Ewrop am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd. Dioddefodd y Gleision ergyd cyn dechrau’r gêm pan fu’n rhaid i Juaquin Tuculet, y chwaraewr rhyngwladol o’r Ariannin, dynnu allan oherwydd anaf i’w law. A gan fod canolwr Cymru Cory Allen eisoes wedi’i anafu, bu’n rhaid i’r mewnwr Tavis Knoyle chwarae allan o’i safle arferol a bod yn ganolwr.
Ond roedd y newid hwn fel pe bai wedi gweithio o blaid gw?r y brifddinas, pan arweiniodd cic a chwrs gan Knoyle at sgrym i’r Gleision yn agos i linell gais y Dreigiau, a chroesodd Williams i sgorio’r cais agoriadol. Ar ôl i Josh Navidi fygwth ar yr ochr dywyll, hyrddiodd Alex Cuthbert drwy’r canol a dilynodd Williams ef gan groesi’r llinell cyn pen pedair munud i ddechrau’r gêm.
Ymatebodd Prydie â gôl gosb, ond cafwyd ergyd i obeithion y Dreigiau pan anafwyd y clo dylanwadol Andrew Coombs. Arweiniodd hynny at ymddangosiad Taulupe Faletau, ond methodd seren y Llewod ag atal llif y gw?r mewn glas. Bu Cuthbert yn bygwth mewn gêm agored a oedd yn bleser i’w gwylio, a bu Williams bron iawn â sgorio ei ail gais.
Cafodd Cuthbert ei ddal i fyny dros y llinell, ond sgoriodd y Gleision yn syth o sgrym unwaith eto wrth i Anscombe gamu heibio i Dorian Jones i dirio’r bêl. Trosodd Anscombe ei gais ei hun ac roedd y Gleision fel pe baent yn gyffyrddus ar y blaen gyda sgôr o 14-3. Ond dewisodd asgellwr y Dreigiau, Amos, ongl hyfryd i’w rhedeg i sgorio cais allweddol bedair munud cyn hanner amser, a chafodd y gêm ei thrawsnewid yn llwyr gan y tîm cartref.
Llwyddodd y Dreigiau i wneud hynny er iddynt golli’r blaenasgellwr James Thomas oherwydd anaf i’w ben yn ystod munud cyntaf yr ail hanner. Daeth yr eilydd Cudd i’r cae a throelli drosodd i sgorio ail gais ei dîm ychydig eiliadau’n ddiweddarach, ar ôl iddi ymddangos bod y Gleision wedi cadw’r Dreigiau draw.
Roedd y tîm cartref bwynt yn unig ar y blaen, gyda sgôr o 15-14, ar ôl i Prydie daro’r postyn â’i drosiad. Ond camodd i’r adwy unwaith yn rhagor ar ôl i Williams, a sgoriodd gais cyntaf y Gleision, ildio cais cosb. Gwelodd Williams ei gic i glirio’r bêl yn cael ei tharo i lawr gan Jonathan Evans, a thynnodd ei wrthwynebydd yn ôl i atal mewnwr y Dreigiau rhag tirio’r bêl.
Dyfarnodd JP Doyle gais cosb, a droswyd gan Prydie, ac anfonodd Williams i’r gell gosb. Ond collodd Prydie gyfle unwaith eto i sgorio pwyntiau, ar ôl i Anscombe gael ei gosbi, ac roedd cefnogwyr y Dreigiau’n ofni y gallai tair cic aflwyddiannus gostio’n ddrud i’w tîm.
Cymerodd Dorian Jones drosodd a llwyddodd a’i ymgais cyntaf, a chreodd hynny ddigon o fwlch yn y sgôr i’r Dreigiau oroesi ymdrech hwyr gan y Gleision. Navidi a elwodd pan ildiodd sgrym y Dreigiau yn y diwedd. Arweiniodd trosiad Anscombe at ddiweddglo cyffrous, ond llwyddodd y tîm cartref i ddal ei dir i selio buddugoliaeth haeddiannol.