Neidio i'r prif gynnwys
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau

Y Gleision yn drech na’r Dreigiau

Ar ôl colli yn erbyn Dreigiau Casnewydd Gwent yng nghynghrair RaboDirect Pro12 ar ?yl San Steffan, talodd Gleision Caerdydd y pwyth yn ôl wrth iddynt frwydro am fuddugoliaeth o 21-13 mewn amodau anodd ar Barc yr Arfau.

Rhannu:

Y Dreigiau sgoriodd unig gais y gêm, sef cais i’r asgellwr Will Harries yn yr hanner cyntaf, ond rhoddodd grym blaenwyr y Gleision y cyfle i Leigh Halfpenny gicio’r pwyntiau yn yr ail hanner gan sicrhau buddugoliaeth i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Gleision yn dringo o’r degfed i’r nawfed safle yn y tabl, ac mae’r Dreigiau’n parhau’n chweched ar ôl iddynt fethu â sicrhau pwynt bonws am golli, diolch i droed Halfpenny.

Prin oedd y cyfleoedd i sgorio ceisiau mewn gornest a oedd yn brawf ar ddycnwch y chwaraewyr. Llwyddodd y Gleision i dawelu bygythiad ymosodol Toby Faletau, na welwyd llawer ohono drwy’r gêm, ond roedd gêm gicio wych Dan Evans a Jason Tovey yn golygu bod gobaith i’r Dreigiau o hyd.

Erbyn i’r Gleision fynd 9-0 ar y blaen diolch i droed Halfpenny roedd pethau’n edrych yn ddu ar y Dreigiau, ond llwyddodd yr ymwelwyr i syfrdanu’r Gleision gyda chais gwych ar ôl i Ashley Smith wrthymosod o hanner ffordd.

Gyda’r sgôr yn 10-9 o blaid y Dreigiau ar yr hanner, cawsant dri phwynt arall diolch i gic gan Tovey wrth iddi ddechrau arllwys y glaw.

Cafodd Faletau ei gosbi yn y llinell, a gyda’i drydedd gic lwyddiannus o’r prynhawn llwyddodd Halfpenny i leihau’r bwlch i un pwynt unwaith eto.

Cafodd Smith ei gosbi am beidio â rholio i ffwrdd o’r ryc, ac roedd y gôl gosb gan Halfpenny yn golygu bod y Gleision ar y blaen gyda sgôr o 15-13. Yna, cafodd Halfpenny gyfle i roi rhywfaint o olau dydd rhwng ei dîm a’r Dreigiau, ond rhuthrodd ei ergyd ac aeth y bêl heibio i’r postyn.

Yna, penderfynodd Gareth Davies gymryd yr awenau gan gicio gôl adlam, a sicrhaodd Halfpenny y fuddugoliaeth gyda’i chweched gôl gosb lwyddiannus o’r prynhawn, wedi i Faletau gael ei gosbi, braidd yn llym, am daro’r bêl o afael mewnwr y Gleision, Lloyd Williams

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Rhino Rugby
Sportseen
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau
Amber Energy
Opro
Y Gleision yn drech na’r Dreigiau