Yn ystod hanner cyntaf corfforol aeth y Gweilch ar y blaen gyda sgôr o 14-3 ar ôl ceisiau gan yr olwyr Ashley Beck ac Aisea Natoga a dau drosiad gan Dan Biggar. Gôl gosb Rhys Priestland oedd unig sgôr y Scarlets wrth i Scott Williams eu cadw yn y gêm gyda pherfformiad arbennig yng nghanol cae.
Gornest rhwng Biggar a Priestland oedd hi yn yr ail hanner. Roedd y ddau chwaraewr rhyngwladol yn llywio eu tîm yn effeithiol, ac er i Priestland sgorio tair gôl gosb o gymharu ag un gan Biggar, llwyddodd y Gweilch i ddal gafael ar eu mantais, er iddynt orfod chwarae â phedwar dyn ar ddeg am y rhan fwyaf o’r 10 munud olaf wedi i Natoga gael carden felen.