Ar y blaen 12-6 gyda ychydig mwy na 20 munud yn weddill, gyda’r ymwelwyr i lawr i 14 dyn a hwythau heb wasanaeth eu capten dylanwadol Jean de Villiers, roedd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i orffen cyfres yr Hydref ar nodyn calonogol.
Ond bu bron i’r sefyllfa ddelfrydol droi’n hunllef wrth i Gymru wastraffu sawl cyfle i wneud y gêm yn ddiogel cyn gorfod amddiffyn am y bywydau i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Roedd y ffaith iddyn nhw lwyddo a chroesi’r llinell derfyn fel y buddugwyr ar ôl baglu sawl gwaith yn y gorffennol yn dyst i’w dygnwch a dyfalbarhad. Mawr hefyd i’w ei dyled i seren y gêm Dan Biggar. Yn ogystal a’i daclo diflino, fe ddangosodd y maswr y gallu i osod ei stamp wrth reoli’r gem – dawn fydd yn bwysig wrth i Gatland lunio ei strategaeth ar gyfer y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.
Ar ôl eu hymdrechion arwrol a chleisiog yn erbyn y Crysau Duon y penwythnos diwethaf, roedd prawf corfforol hyd yn oed mwy llym yn wynebu Cymru wrth i gyfres Hydref Dove Men ddirwyn i ben.
Ac yn ôl y disgwyl nerth bôn a braich yn hytrach na sgiliau slic oedd brif nodwedd y chwarae yn yr hanner cyntaf.
Ar yr adegau hynny pan gafodd olwyr Cymru gyfle i redeg fe ddaeth y symudiad i ben oherwydd cam drafod gan gynyddu’r rhwystredigaeth a nerfusrwydd.
Roedd Leigh Halfpenny a maswr yr ymwelwyr Pat Lambie wedi cyfnewid ciciau cosb cyn i Gymru sicrhau safle oedd yn galluogi i fwgwth llinell gais y Sprinboks am y tro cyntaf wedi 25 munud a hynny wedi i Liam Williams fwgwth lawr yr asgell chwith gan ennill llinell ymosodol i’w dim.
Ar ddau achlysur fe ddefnyddiodd Cymru’r dacteg o ffurfio llinell 15 dyn – tacteg a weithiodd yn erbyn y Crysau Duon yn 2012. Ond y tro hyn fe lwyddodd De Affrica i wrthsefyll ymdrechion y Cymru.
Cyn hynny gwelwyd Halfpenny yn taro’r postyn gydag ymdrech at y pyst ac fe fethodd Lambie yntau i roi ei dim ar y blaen wedi hanner awr.
Ac wrth i’r ymwelwyr bwyso tua’r egwyl, roedd Cymru yn ddyledus i Halfpenny ar ôl i’r cefnwr atal hyrddiad Eben Etzebeth gyda thacl nerthol.
Roedd Hafpenny a Lambie yn brysur unwaith eto ar ddechrau’r ail hanner, gyda’r Cymro yn trosi dau a’i wrthwynebydd yn llwyddo gydag un gic cosb o fewn 11 munud.
Cosbi’r chwaraewyr yn ardal y dacl wnaeth y dyfarnwr i John Lacey ar y tri achlysur. Ond roedd trydydd cic cosb a ddyfarnwyd i Gymru wedi 55 munud yn un llawer mwy arwyddocaol wrth i Halfpenny roi ei dim 12-6 ar y blaen ar ôl gweld ei flaenwyr yn chwalu sgrym y Springboks.
Roedd yna ergyd greulon i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw golli gwasanaeth eu capten Jean de Villiers gydag anaf cas i’w ben-glin wedi 57 munud.
Ond mi gafodd y Crysau Gwyrdd ac aur eu symbylu gan ymadawiad eu capten a bu’n rhaid i amddiffyn Cymru fod ar ei orau unwaith eto.
Targedwyd gallu Halfpenny o dan y bel uchaf ac fe welodd Cornal Hendricks y cerdyn melyn wedi 62 o funudau am dacl beryglus ar y cefnwr a hynny wedi i’r dyfarnwr wylio’r ail chware ar y sgrin fawr.
Un dyn i lawr a hwythau heb eu capten, roedd De Affrica yn siglo. A phan sicrhaodd cic cosb Biggar safle ymosodol gwych i’r Cymru, roedd y dorf yn synhwyro mai hwn oedd y cyfle i droi’r gyllell.
Ond rhywsut, gyda’r llinell yn agos fe lwyddodd Cymru sawl cyfle a phan benderfynodd y bachwr Scott Baldwin i fynd am y cais ei hun, fe’i cosbwyd am ddal ei afael ar y bel.
Gyda bron i 70 munud yn dangos ar y cloc, fe geisiodd Biggar ymestyn ei fantais gyda chic adlam. Ac er i’w gynnig methu mi gafodd Cymru gyfle eriadd arall pan fwrodd Wille le Roux y bel ymlaen pum llathen o’r llinell gais.
Ond unwaith eto fe gollodd Cymri reolaeth o’r sgrym gan gynnig dihangfa arall i Dde Affrica.
Ac roedd mwy o ddrama i ddod gyda thri munud yn weddill pan darodd yr eilydd Scott William y bel ymlaen wrth geisio maesu cic hir i’r gornel gan gyflwyno De Affrica gyda grym pum llath o linell gais y Cymru.
Ond y tro hyn fe lwyddodd Cymru i ddal eu tir ac fe wnaeth Taulupe Faleteau yn wych i ddwyn y bel er mwyn i Gymru cael dianc o’r gwarchae.
Bu’n rhaid i’r dorf o 58,235 ddioddef am ychydig funudau eto cyn i chwiban Mr Lacey ddod ar boen ar aros i ben a dynodi dechre ar y dathlu.