Unwaith yn rhagor nid yw’r sgôr yn dweud y cyfan am gêm epig arall yng Nghwpan Rygbi’r Byd y gallai, ac efallai y dylai Cymru fod wedi’i chipio. Am bron i ddeg munud bu Awstralia yn chwarae â 13 dyn, ond rywsut llwyddwyd i atal Cymru rhag sgorio.
Trwy gydol y cyfnod hollbwysig hwn yn yr ail hanner roedd y Cymry yn chwarae yn 22 Awstralia ac ar ôl cyfres o sgrymiau a leiniau pum metr roedd yn ymddangos bod yn rhaid i Gymru sgorio, wrth i Awstralia – un o elynion pennaf y crysau cochion – geisio dal eu llinell yn gadarn ac amddiffyn heb wasanaethau’r mewnwr Will Genia a’r clo Dean Mumm.
Roedd y dewrder a’r angerdd a ddangoswyd gan w?r Stephen Moore dan y fath bwysau yn eithriadol, ac unwaith iddynt lwyddo i ryddhau’r pwysau i fyny â nhw i ben arall y cae a chwalu gobeithion y Cymry drwy ennill cic gosb arall. Ciciodd Bernard Foley ei bumed gôl gosb o’i droed dde ddibynadwy i ymestyn y fantais.
Erbyn hyn roedd amser yn prinhau, ac roedd ymdrechion y Cymry yn mynd yn fwy gwyllt a byrbwyll. Roeddent wedi colli gwasanaeth Alex Cuthbert, a gafodd ei anfon i’r gell gosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol ar ymyl ei 22 ei hun, ac roedd Cymru ar fin colli ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth hon.
Roedd y teimlad ar ddiwedd y gêm yn debyg i’r teimlad hwnnw y mae Cymru wedi’i gael ar ôl cynifer o’r gemau diweddar yn erbyn Awstralia. Unwaith eto, roedd y Walabis wedi llwyddo i amsugno’r holl bwysau yr oedd Cymru wedi’i roi arnynt a gorffen y gêm yn fuddugoliaethus naw pwynt ar y blaen.
Gallai Cymru fod wedi sgorio yn eiliadau cynta’r gêm, ac yn wir Cymru sgoriodd y pwyntiau cyntaf drwy droed Dan Biggar. Y crysau cochion gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn y cyfnodau cynnar, eto i gyd erbyn hanner amser roeddent ar ei hôl hi 9-6 ar ôl i Foley a Biggar gicio’r pwyntiau i gyd.
Yn annodweddiadol o Biggar, methodd gic at y pyst ychydig cyn hanner amser, ac yna’r unig bwyntiau a gafodd eu sgorio yn yr ail hanner oedd dwy gôl gosb arall gan Foley. Roedd yn gêm dynn, ddramatig a rhwystredig i gefnogwyr Cymru.