Roedd y Wallaroos lawr at 14 chwaraewr am y rhan fwya o’r ail hanner ar ol i Siokapesi Palu dderbyn carden goch am dacl uchel ar Jasmine Joyce, ac ar ol ol 58 munud roedden nhw lawr at 13 pan dderbyniodd yr ail reng Sera Naiqama garden felen ar ol i Gymru gael cais cosb.
Ond fe ddaeth Awstralia nol mewn amgylchiade anodd iawn drwy amddiffyn yn gadarn a dwyn y fuddugoliaeth a gadael tim Ioan Cunningham heb yr un fuddugliaeth ar ol eu 3 gem gynta yn y WXV1.
Roedd Cunningham wedi galw ar y tim i ddechre’n gryf , ac fe gafwyd hynny wrth i’r merched fynd drwy’r cyfnode cynnar yn hyderus gan gadw Awstralia ar y droed ol.
Ac roedd yr amddiffyn yn gryf hefyd wrth i Awstralia bwyso , gyda’r gwrthwynebwyr yn gorfod cicio’r bel i ffwrdd ar ol cadw’r meddiant am 13 o gymalau.
Roedd Awstralia am gael gem gyflym er mwyn defnyddio’r donie oedd ganddyn nhw ymhlith yr olwyr , ond llwyddodd Cymru i’w ffrwyno yn y cyfnod agoriadol.
Fe yrrodd Sisila Tuiopolotu a Bethan Lewis ymosodwyr Awstralia nol ar eu sodlau gyda’u taclo grymus wrth i’r Wallaroos herio’r amddiffyn dro ar ol tro , ond yn y diwedd bu’n rhaid ildio o dan y fath bwysau wrth i Maya Stewart groesi am gais agoriadol y gem ar ol 15 munud.
Daeth Cymru nol yn fygythiol gan gadw’r bel am 8 cymal , ond yn anffodus fe’u cosbwyd yng nghysgod pyst y gwrthwynebwyr.
Serch hynny , Awstralia reolodd y tir a’r meddiant yn y 25 munud agoriadol , ond yna daeth cyfle prin i Gymru ymosod . Wrth yrru sgarmes o’r lein , ceisiodd sawl un o’r blaenwyr gyrraedd y llinell . Fe’u rhwystrwyd rhag croesi yn wreiddiol , ond cadwodd Cymru i bwyso , ac yn y diwedd llwyddodd Carys Phillips i groesi , a chyda Keira Bevan yn trosi , roedden nhw ar y blân .
Ond daeth Awstralia nol gan ennill mantes o 8-7 ar yr egwyl ar ol i Carys Dallinger lwyddo i drosi gol gosb.
Ar ol 2 funud o’r ail hanner daeth y garden goch i Palu am y drosedd ar Jasmine Joyce.
Gwelodd Cymru eu cyfle gan fynd â’r gem at Awstralia , ac unwaith eto fe dalodd yr holl ymarfer yn y sgarmes symudol ar ei ganfed. Bu’n rhaid i Awstralia droseddu er mwyn atal y momentwm.Cais cosb oedd penderfyniad y dyfarnwr Davidson , ac fe ddanfonwyd Naiqama i’r cell cosb gan adael Awstralia lawr at 13 am 10 munud.
Serch hynny fe ddalion nhw ati , ac fe ddefnyddiodd y prop Eva Karpani ei holl gryfder i groesi a thorri mantais Cymru lawr at 1 pwynt yn unig . Ac roedd ergyd arall i obeithion Cymru ar ol 67 o funudau wrth i gyflymder tim Awstralia greu’r bwlch cyn i’r eilydd Lori Crame gael gafael ar y bel rydd a chroesi.
Ac fe gawson nhw eu 4ydd cais pan sgoriodd Ivania Wong , ond fe wnaeth Cymru’n siwr o ddiweddglo llawn tensiwn wrth i’r eilydd fachwr Kelsey Jones lwyddo i gyrraedd am gais yn y cornel , ond er mawr siom fe lwyddodd y Wallaroos i’w cadw nhw mâs yn y munudau ola , a hynny felly’n golygu bod tim Ioan Cunningham wedi colli pob un o’u 3 gem gynta yn y gystadleuaeth.