Gan i Fenywod Cymru guro’r Eidal o 36 -10 yn Parma, hawliodd y tîm eu trydedd buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok am y tro cyntaf ers 2009 gan gadarnhau eu gwelliant o dan hyfforddiant Ioan Cunningham.
Er i’r Eidal guro’r cochion yn eu dwy ornest flaenorol, Hannah Jones a’i thîm sicrhaodd y fuddugoliaeth haeddianniol yng ngogledd yr Eidal gan sgorio 5 cais yn y broses.
Wedi i’r Cymry ddechrau’n araf o flaen 20,000 o dorf yn Grenoble wythnos ynghynt, ‘roedd pethau’n wahanol yn Parma gan i’r ymwelwyr reoli’r munudau cynnar ac fe gawsant eu gwobrwyo wedi chwe munud o chwarae diolch i driphwynt o droed Keira Bevan.
Parhau gyda’r Cymry wnaeth y momentwm ac fe brofodd y pac yn enwedig bod ganddynt oruchafiaeth dros wyth blaen yr Eidal.Wedi cyfres o hyrddiadau grymus – croesodd Bethan Lewis am ei chais cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni wedi 24 munud o chwarae. Ychwangeodd Bevan y ddeubwynt gyda chymorth y postyn.
Ond methodd yr ymwelwyr â gwarchod eu llinell gais am ddau funud wedi’r ail-ddechrau wrth i’r maswr cartref Veronica Madia groesi’r gwyngalch.
Rhoddodd y cais hwnnw, yn erbyn rhediad y chwarae, hyder i’r Eidal a gyda wyth munud ar ôl o’r hanner cyntaf fe ychwanegodd Michela Sillari gôl gosb at ei throsiad cynharach i wneud y sgôr y gyfartal.
Ddau funud cyn yr egwyl – wedi chwarae deallus a phwyllog gan bac Cymru unwaith yn rhagor – croesodd Sisilia Tu’ipulotu o dan y pyst am ei phedwerydd cais o’r Chwe Gwlad eleni. Gyda throsiad syml Bevan roedd gan y Cymry fantais o 7 pwynt wrth droi.
Naw munud wedi’r egwyl – amlygwyd cryfder blaenwyr y Cymry unwaith eto – ac wedi iddi deithio yn ôl i Gymru wedi’r gêm yr Grenoble o ganlyniad i’w dyletswyddau dysgu – cafodd Sioned Harries ei haeddiant am ei hymrwymiad a’i dawn wrth iddi hawlio trydydd cais ei thîm.
Yn union wedi trydydd trosiad Bevan cododd y dorf ar eu traed wrth i fewnwr a chapten yr Eidal – Sara Barattin adael y maes yn ei gêm olaf dros ei gwlad.
Ond tawelwyd yr holl dorf wedi bron i awr o chwarae wrth i ferched Hannah Jones hawlio eu trydydd pwynt bonws o’r Bencampwriaeth. Wedi bylchiad Elinor Snowsill o’r llinell hanner a gwaith cynorthwyo gwych – croesodd Alex Callender am gais gorau’r ymgyrch i’r cochion.
Dau eilydd gyfunodd am y pumed cais wrth i gic bwt gywir Ffion Lewis adlamu’n garedig i Kerin Lake.
Diwrnod hanesyddol i fenywod Cymru felly a diwrnod y bydd dwy yn benodol yn ei gofio am byth. Hawliodd Caryl Thomas cap rhif 65 yn ei gêm olaf a daeth Amelia Tutt i’r maes yn ystod y munudau olaf i hawlio’i chap cyntaf – y pedwerydd chwaraewr i gynrychioli’r crysau cochion am y tro cyntaf yn ystod y Bencampwriaeth.
Sicrhaodd y fuddugoliaeth hon fod Cymru wedi hawlio eu lle yn erbyn prif dimau’r byd yng nghystadleuaeth WXL – fydd yn cael ei gynnal yn Seland Newydd yn ystod yr Hydref a’u bod hefyd wedi codi i’r chweched safle ymhlith detholion y byd – eu safle uchaf erioed.