Neidio i'r prif gynnwys

Match Page - Scoreboard

Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais

Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais

15.04.23 - Wales v England, TicTok Womens 6 Nations - Kelsey Jones of Wales takes on Alex Matthews of England

Er i Gymru gynnig gwir her i’r Hen Elyn ar ddechrau’r ornest hon – methiant fu ymdrech tîm Ioan Cunningham i gipio Coron Driphlyg Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023 wrth i’r Saeson ennill yn gyfforddus o 59-3

Roedd pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer yr ornest rhwng dau dîm oedd wedi sicrhau pwyntiau llawn yn eu dwy gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth a’r Cymry gafodd y dechrau gorau wrth iddyn nhw reoli’r meddiant yn gynnar. Er iddyn nhw guro ar y drws yn gyson – cic gosb Keira Bevan oedd unig sgôr y chwarter agoriadol.

Wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen dangosodd Lloegr eu grym a’u dawn ac fe sgorion nhw dri chais trwy ymdrechion Lucy Packer – aeth i’r Ysgol yn Nyffryn Aman – Tatyana Heard a sgôr unigol gofiadwy Abby Dow gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf.

O ganlyniad i giciau Emma Sing, ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 19-3 ar yr egwyl.

Yn wahanol i’r cyfnod cyntaf – Lloegr ddechreuodd yr ail hanner ar dân – ac wedi chwe munud yn unig hawliodd y maswr Holly Aitchison y cyntaf o chwe chais ei thîm wedi troi, gan sicrhau trydydd pwynt bonws y crysau gwynion o’r Bencampwriaeth yn y broses.

Bum munud yn ddiweddarach, ychwanegodd Jess Breach bumed cais yr ymwelwyr a phum munud wedi hynny croesodd yr eilydd Ellie Kildunne y gwyngalch hefyd.

Wedi bron i awr o chwarae, dangoswyd cerdyn melyn i eilydd Cymru Kate Williams am dacl anghyfreithlon ac eiliadau’n ddiweddarach hawliodd eilydd Lloegr, Maud Muir sgôr pellach i Loegr.

Dilynnodd dau gais pellach i’r Saeson cyn y chwiban olaf diolch i ymdrechion dau eilydd arall sef Hannah Botterman a Sarah Beckett.

Chwaraeodd Lloegr fwyafrif y 10 munud olaf gyda 13 o chwaraewyr gan i’r capten Marlie Packer a May Campbell gael eu danfon i’r cell cosb am daclau peryglus yn ystod yr un symudiad.

Er gwaetha’r golled drom, bydd Bryonie King yn cofio’r diwrnod am byth gan iddi ddod i’r maes gyda 10 munud yn weddill i ennill ei chap cyntaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru’n methu cipio’r Goron Driphlyg ym Mharc yr Arfau wrth i Fenywod Lloegr sgorio naw cais