Wedi dechreuad mor addawol i Bencampwriaeth Menywod TikTok 2023 gyda dwy fuddugoliaeth gyffrous – colli am yr eildro yn olynnol fu hanes Cymru yn Grenoble ddydd Sul.
Er i berfformiad yr hanner cyntaf yn erbyn Lloegr wythnos ynghynt roi gwir hyder i garfan Ioan Cunningham, Les Bleues enillodd yr ornest yn y Stade des Alpes o 39-14.
Roedd Ffrainc wedi ennill eu tair gornest agoriadol – gan chwalu’r Alban o 55-0 yn nhrydedd rownd gemau’r Bencampwriaeth wythnos ynghynt ac fe gawson nhw’r dechrau delfrydol wrth i’r wythwr Romane Ménager groesi wedi munud yn unig o chwarae.
Wedi deng munud o’r gêm – ‘roedd Cymru ar ei hôl hi o 17-0 o ganlyniad i gais penderfynol y blaen-asgellwr Gaelle Hermet a chicio hynod gywir Jenny Trémouliére ac roedd mwyafrif helaeth y dorf o bron i 20,000 yn hynod o hapus.
Aeth pethau o ddrwg i waeth am gyfnod wedi hynny i Gymru gan i Sioned Harries dderbyn cerdyn melyn am atal bygythiad arall gan y Ffrancwyr yn anghyfreithlon – ac yn ystod y cyfnod y bu hi’n cynhesu’r fainc – croesodd Mélissande Llorens am gais unigol gwych i rhwbio halen i friwiau tîm Ioan Cunningham.
Gyda’r cloc wedi troi’n goch ddiwedd yr hanner cyntaf – tarodd Llorens am yr eildro gan sicrhau pwynt bonws a mantais o 29-0 i’w thîm wrth droi.
Yn anffodus, cafwyd dechrau anodd i’r ail gyfnod wrth i chwarae mentrus a dawnus y tîm cartref esgor ar bumed cais. Yn dilyn menter a thrafod campus – croesodd Charlotte Escudero’r gwyngalch yn orfoleddus.
Wedi hanner can munud o chwarae fe ddechreuodd hi fwrw glaw – ac fe addasodd Cymru’n dda i’r amodau.Yn wir, y crysau cochion reolodd y chwarae wedi hynny. Yn dilyn cyfnod hir o fygwth llinell gais y Ffrancod – croesodd Georgia Evans am gais effeithiol ac ar achlysur ennill ei 75fed cap – hawliodd Elinor Snowsill ddeubwynt ychwanegol.
Tyfodd hyder yr ymwelwyr a thoc cyn yr awr, croesodd yr eilydd Gwenllian Pyrs gwta dri munud wedi iddi ddod i’r maes i hawlio’i thrydydd cais o’r Bencampwriaeth eleni.
‘Roedd Les Bleues yn benderfynol o gael y gair olaf a gyda dim ond dau funud ar ôl – croesodd Rose Bernadou am eu chweched cais i goroni eu pedwaredd buddugoliaeth o’r Bencampwriaeth.
Er y bydd carfan Cymru’n siomedig gyda’r ail golled hon o’r bron – byddant yn targedu buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal yn Parma mewn chwe niwrnod er mwyn ceisio sicrhau tair buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth eleni o’i gymharu â dwy fuddugoliaeth y tymor diwethaf.
Bydd Ffrainc yn teithio i Twickenham a bydd enillwyr yr ornest honno’n cipio’r Gamp Lawn.