Enillodd Menywod Cymru eu hail gêm o Bencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok trwy guro’r Alban o 22-24 yn Stadiwm DAM Health ddydd Sadwrn.
Am yr ail benwythnos o’r bron enillodd Sisilia Tuipolotu wobr Seren y Gêm am ei pherfformiad a’i dau gais. Sgoriodd ei chyd-brop Gwenllian Pyrs ddau gais hefyd gan osod y sylfaen i fuddugoliaeth gofiadwy arall yn y Bencampwriaeth.
Er mai Cymru oedd y ffefrynnau i ennill yr ornest yng Nghaeredin – chwaraeodd y tîm cartref eu rhan wrth gyfrannu at gêm gystadleuol a chofiadwy.
Dechreuodd y Cymru ar dân yn y ddau hanner ac yn y pen-draw gallu tîm Ioan Cunningham i fanteisio ar eu goruchafiaeth o safbwynt y meddiant a chyfleoedd sicrhaodd eu hail fuddugoliaeth o’r Bencampwriaeth a’u hail bwynt bonws hefyd.
Yn ystod y munudau agoriadol – croesodd Tuipolotu wedi croesi am ei chais cyntaf – yn dilyn gwaith effeithiol Georgia Evans yn y lein.
Er i’r Alban fygwth am gyfnodau helaeth wedi hynny yn yr hanner cyntaf – ‘roedd amddiffyn y crysau cochion yn gampus a’r sgorfwrdd yn adlewyrchu hynny hefyd.
Wrth ddechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwrauieth eleni, ‘roedd Sioned Harries yn meddwl ei bod wedi hawlio ail gais i’r tîm – ond penderfynodd y swyddogion ei bod hi’n camsefyll yn y sgarmes.
Ysgogodd y digwyddiad hwnnw welliant ym mherfformiad yr Alban ac wedi 27 munud hawliodd Helen Nelson driphwynt cyntaf ei thîm gyda gôl gosb syml.
Ond fel pob tîm da – ymatebodd Menywod Cymru’n wych i’r ffaith eu bod wedi ildio eu pwyntiau cyntaf o’r prynhawn. Bylchodd Sioned Harries yn gryf gan ryddhau Keira Bevan – ar achlysur ei 50fed cap. Er iddi gael ei thaclo fodfeddi’n brin – cwblhaodd Gwenllian Pyrs y symudiad ac yn dilyn y trosiad gan Bevan – roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 12-3.
Tro’r Alban oedd hi i daro’n nôl cyn yr egwyl. Croesodd Lana Skeldon am gais cyntaf ei thîm yn dilyn gwaith cadarn gan y blaenwyr. Wedi trosiad Nelson dim ond deubwynt o fantais oedd gan y Cymry.
Yn eiliadau olaf y cyfnod cyntaf danfonwyd Kerin Lake i’r cell cosb am gamsefyll – ond llwyddodd amddiffyn trefnus a dewr yr ymwelwyr sicrhau nad ildiwyd mwy o bwyntiau cyn troi.
Ddau fumud yn unig wedi’r ail-ddechrau – hawliodd Pyrs ei hail gais o’r gêm yng nghysgod y pyst. Unwaith yn rhagor tarodd yr Albanwyr yn ôl trwy gais Coreen Grant a throsiad Nelson gan dorri’r bwlch i ddeubwynt.
Efelychodd Tuipolotu gamp ei chyd-brop Pyrs wedi 54 munud wrth hawlio ei hail gais hi gan sicrhau bod mantais Cymru yn 24-17.
Ond dangosodd yr Alban wir gymeriad unwaith yn rhagor pan sgoriodd Chloe Rollie gais unigol cofiadwy yn dilyn ei rhediad nerthol o’r llinell 22m.
Yn dilyn gôl gosb Elinor Snowsill ‘roedd angen trosgais ar y tîm cartref yn y munudau olaf i hawlio’r fuddugoliaeth – ond wedi sgrym ardderchog – llwyddodd yr eilydd Ffion Lewis i groesi’r gwyngalch a sicrhau llwyddiant yn erbyn yr Albanwyr am yr ail flwyddyn yn olynnol.