Neidio i'r prif gynnwys

Cyfleusterau Anabl

Mae’r Stadiwm wedi’i gynllunio fel ei fod yn hybu annibyniaeth, a’n bwriad yw darparu gwybodaeth hygyrch am gyfleusterau’r Stadiwm a’r defnydd a wneir ohono.

Mynediad
Ceir mynediad i Stadiwm Principality ar draws sgwariau gwastad heb unrhyw risiau a heb unrhyw rampiau sy’n fwy serth nag 1:20. Mae defnyddwyr cadair olwyn a gwylwyr anabl eraill yn mynd i mewn i Stadiwm Principality gyda’r holl wylwyr eraill, drwy’r un giatiau tro a’r un mynedfeydd.

O’R GOGLEDD AR HYD RHODFA’R AFON I GIÂT 1
O’R DWYRAIN AR DRAWS SGWÂR HEOL Y PORTH I GIÂT 3
O’R DE AR DRAWS SGWÂR Y MILENIWM I GIATIAU 6 A 7

Bydd y stiwardiaid yn cyfeirio’r gwylwyr at lifftiau cyfagos fel y bo’n briodol.

CLICIWCH YMA i weld y Datganiad Mynediad ar gyfer Stadiwm Principality

Pobl anabl nad ydynt yn defnyddio cadair olwyn
Nid oes unrhyw ardaloedd penodol o’r maes sy’n hwyluso mynediad ar gyfer pobl anabl nad ydynt yn defnyddio cadair olwyn. Fodd bynnag, ceir nifer o seddau hawdd eu cyrraedd ar gyfer y sawl sy’n defnyddio ffyn bagl, ffyn neu fframiau cerdded. Ffoniwch 029 2082 2427 i gael rhagor o wybodaeth cyn archebu eich tocynnau.

Trefniadau parcio
Ceir nifer o leoedd parcio i bobl anabl, a gellir eu cadw ymlaen llaw drwy gysylltu â thîm rheoli’r Stadiwm. Bydd tocynnau parcio ar gyfer y lleoedd hynny’n cael eu dyrannu fesul digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2082 2427 neu anfonwch ebost i access@wru.co.uk

Toiledau
Mae’r holl doiledau ar gyfer gwylwyr anabl yn hawdd eu cyrraedd. Er mwyn atal camddefnydd o’r toiledau hyn, rhaid cael allwedd Radar i fynd i mewn iddynt yn awr. I gael rhagor o wybodaeth am allweddi Radar, ewch i http://www.radar.org.uk/. Dyma’r ddarpariaeth o ran toiledau ar bob lefel:

LEFEL 3    14 TOILED I BOBL ANABL (O’R NAILL RYW A’R LLALL)
LEFEL 4    4 TOILED I BOBL ANABL (O’R NAILL RYW A’R LLALL)
LEFEL 6    4 TOILED I BOBL ANABL (O’R NAILL RYW A’R LLALL)
LEFEL 5    MAE MODD I DDEFNYDDWYR CADAIR OLWYN FYND I BOB UN O’R BLYCHAU LLETYGARWCH PREIFAT SYDD AR LEFEL 5, AC MAE 4 TOILED I BOBL ANABL (O’R NAILL RYW A’R LLALL) AR Y LEFEL HON

Cyfleusterau darparu lluniaeth
Mae’r rhain wrth ymyl yr ardaloedd gwylio hygyrch ar bob lefel. Mae ardaloedd y cownteri a’r ardaloedd ciwio wedi’u dylunio a’u lleoli mewn modd sy’n galluogi pobl i fynd iddynt yn annibynnol heb rwystro llwybrau tramwyo. Mae tîm rheoli Stadiwm Principality yn cydnabod y gallai pobl anabl ei chael yn anodd cael mynediad i gyfleusterau yn ystod y cyfnodau cyfyngedig a phrysur adeg hanner amser, Felly, mae’n gweithredu gwasanaeth archebu lluniaeth ar y cyd â’r stiwardiaid.

Polisi prisiau
Ar gyfer digwyddiadau a reolir gan Stadiwm Principality ac Undeb Rygbi Cymru, mae gwylwyr anabl yn talu’r pris llawn am docynnau ac mae’r unigolyn sy’n dod gyda nhw (os oes angen) yn cael dod i mewn am ddim. Os nad y Stadiwm sy’n gyfrifol am reoli’r tocynnau ar gyfer digwyddiadau, bydd y polisi prisiau’n cael ei bennu gan hyrwyddwr y digwyddiad. Dylech ymholi os ydych yn mynychu digwyddiad a gaiff ei hyrwyddo gan rywun allanol.

Trefniadau stiwardio ar gyfer gwylwyr anabl
Bydd stiwardiaid penodedig sy’n gyfrifol am gynnig cymorth i wylwyr anabl fel y bo angen yn cael eu gosod ym mhob lleoliad priodol yn y Stadiwm. Mae pob un ohonynt wedi cael hyfforddiant penodol ynghylch ymwybyddiaeth o anabledd. Mae gwasanaeth archebu lluniaeth, sy’n defnyddio’r stiwardiaid hyn, ar gael ar gyfer unrhyw wylwyr anabl sy’n gofyn amdano.

Cŵn tywys
Caniateir cŵn tywys yn y Stadiwm, o drefnu hynny ymlaen llaw gyda’r tîm rheoli. Er mwyn darparu digon o le ar gyfer y cŵn a sicrhau eu bod yn gyffyrddus byddant yn cael eu cyfyngu i’r teras ar gyfer cadeiriau olwyn, sydd y tu ôl i’r haen isaf o seddau ar Lefel 3.

Gwacáu’r Stadiwm mewn argyfwng
Mae Stadiwm Principality yn cydnabod bod diogelwch a lles gwylwyr yn agwedd hollbwysig o redeg y Stadiwm yn llwyddiannus. Rhaid iddo gynllunio’n ofalus ar gyfer pob posibilrwydd, ac mae gweithdrefnau ar gyfer gwacáu’r Stadiwm mewn argyfwng wedi’u datblygu gan dîm rheoli’r Stadiwm gan ymgynghori â Phwyllgor Diogelwch yr awdurdod lleol.

Bydd y cynllun gwacáu’n dibynnu ar leoliad unrhyw argyfwng a lleoliad y sawl sy’n defnyddio cadair olwyn. Er enghraifft, caiff gweithdrefnau gwahanol eu dilyn ar gyfer y lleoedd sydd ar Lefel 4 a Lefel 6 o’u cymharu â’r lleoedd sydd ar Lefel 3. Gofynnir bob amser i’r gwylwyr ddilyn cyfarwyddiadau a chyngor y stiwardiaid penodedig. Bydd lifftiau pwrpasol ar gael i alluogi defnyddwyr cadair olwyn ar Lefel 4, Lefel 5 a Lefel 6 i adael y Stadiwm.

Terasau hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn
Mae darpariaeth ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar gael ym mhob rhan o’r maes ar bob Lefel.

LEFEL 3    64 O LEOEDD, A LLE I 64 O UNIGOLION SY’N DOD GYDA’R BOBL ANABL
LEFEL 4    28 O LEOEDD, A LLE I 28 O UNIGOLION SY’N DOD GYDA’R BOBL ANABL
LEFEL 6    64 O LEOEDD, A LLE I 64 O UNIGOLION SY’N DOD GYDA’R BOBL ANABL

Mae’r ddarpariaeth ar Lefel 3 yn hyblyg er mwyn darparu ar gyfer amryw gyfuniadau o ddefnyddwyr cadair olwyn, ffrindiau a pherthnasau, yn amodol ar hysbysu tîm rheoli’r Stadiwm ymlaen llaw. Gellir cyrraedd y lleoedd sydd ar y lefelau uwch drwy ddefnyddio’r lifftiau ac ardaloedd gwastad. Gall defnyddwyr cadair olwyn gyrraedd yr holl flychau lletygarwch sydd ar Lefel 5 drwy ddefnyddio’r lifftiau ac ardaloedd gwastad.

Cadeiriau olwyn y Stadiwm
Mae deg cadair olwyn a gyflenwir gan Invacare (UK) Ltd ar gael i’w defnyddio gan wylwyr yn Stadiwm Principality, er mwyn i’r gwylwyr allu cael eu hebrwng yn hwylus i’w seddau. Dylech nodi nad oes modd archebu’r cadeiriau hyn ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae stiwardiaid y tîm gwylwyr anabl wrth bob mynedfa cyn y gic gyntaf ac maent yn darparu gofal effeithlon iawn i’n cwsmeriaid cyn ac ar ôl pob gêm.

Ni ellir defnyddio cadeiriau olwyn Stadiwm Principality yn yr ardaloedd lle mae’r seddau i bobl anabl – rhaid bod y cadeiriau ar gael bob amser i’w defnyddio, ac ni ellir eu harchebu i’w defnyddio drwy gydol digwyddiad. Gall gwylwyr sydd am logi cadeiriau olwyn yng Nghaerdydd wneud hynny drwy’r gwasanaeth Shopmobility lleol neu drwy Bush Healthcare.

Mae Stadiwm Principality yn ddyledus iawn i elusen y Wooden Spoon am ei chymorth i ddarparu terasau ar gyfer cadeiriau olwyn yn y Stadiwm, a chyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn y mannau sy’n gwerthu lluniaeth.

Ein nod yw sicrhau nad oes dim yn rhwystro pobl anabl rhag defnyddio Stadiwm Principality. Mae’r Stadiwm wedi’i gynllunio fel ei fod yn hybu annibyniaeth, a’n bwriad yw darparu gwybodaeth hygyrch am gyfleusterau’r Stadiwm a’r defnydd a wneir ohono.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Fynediad a Chyfleusterau i Bobl Anabl, mae croeso i chi lenwi’r ffurflen ar-lein isod. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad post llawn a manylion pellach am y wybodaeth y mae arnoch ei hangen.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyfleusterau Anabl
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyfleusterau Anabl
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyfleusterau Anabl
Rhino Rugby
Sportseen
Cyfleusterau Anabl
Cyfleusterau Anabl
Cyfleusterau Anabl
Cyfleusterau Anabl
Cyfleusterau Anabl
Cyfleusterau Anabl
Amber Energy
Opro
Cyfleusterau Anabl