Platfform Cyfnewid Cefnogwyr
Cyfnewidfa Cefnogwyr Rygbi Cymru yw platfform ailwerthu swyddogol Undeb Rygbi Cymru. Mae’r platfform yn caniatáu i gefnogwyr na allant bellach fynychu digwyddiadau Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality i werthu eu tocynnau’n gyfreithlon drwy farchnad ddiogel, sydd wedi’i dilysu’n llawn.
Mae’r Gyfnewidfa Cefnogwyr yn farchnad ailwerthu ddilys, wedi’i phweru gan Seat Unique. Dim ond gwerthwyr wedi’u dilysu a deiliaid tocynnau gwreiddiol sy’n cael rhestru tocynnau ar y platfform. Felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn prynu tocynnau 100% swyddogol sy’n gwarantu mynediad i ddigwyddiadau Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality.
Caniateir i glybiau rygbi ledled Cymru hefyd werthu hyd at ddeg y cant o’u dyraniadau tocynnau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol cymru yn uwch na’r gwerth wyneb.
Er mwyn cadw amgylchedd dibynadwy i brynwyr, bydd yn ofynnol i bob gwerthwr gwblhau proses ddilysu dau gam. Bydd gwerthwyr yn cael eu dilysu drwy gyfeiriad e-bost wrth greu cyfrif gyda Seat Unique. Yna mae’n rhaid dilysu gwerthwyr fel perchennog gwreiddiol y tocyn, drwy ddarparu gwybodaeth unigryw am docynnau. Os nad yw’r gwerthwr yn pasio’r broses ddilysu, ni allant restru tocynnau ar y platfform.
Ar ôl eu gwerthu, caiff tocynnau eu canslo wedyn gan y gwerthwr gwreiddiol a’u hailgyhoeddi i ddyfais symudol/ffôn clyfar y prynwr drwy ap Tocynnau Stadiwm Principality. Mae’r ap yn caniatáu i docynnau digidol gael eu darparu’n ddiogel.
Ar gyfer pob trafodyn bydd rhodd o £1 yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng elusen ddewisol Undeb Rygbi Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru a phartner elusen Seat Unique , Royal British Legion Industries (RBLI).