Aelodaeth Iau
Byddwch yn rhan o’r tîm drwy ein cynllun Aelodaeth Iau, sy’n wych. Mae’r cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc 5-15 oed sy’n frwdfrydig ynghylch rygbi. Mae aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru yn golygu y bydd nifer o fanteision neilltuol ar gael i chi. Gallwch feithrin eich diddordeb brwd mewn rygbi trwy fod â’r gallu i fynychu’r holl gemau rhyngwladol cartref a gynhelir yn Stadiwm Principality, a thrwy gyfleoedd i gael tynnu eich llun gyda chwaraewr yn un o’n digwyddiadau i aelodau.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle unigryw i’n haelodau iau ennill cyfle i fod yn fasgot neu gario’r bêl i’r maes ar ddiwrnod gêm, gan gerdded allan gyda’r tîm i stadiwm sydd dan ei sang.
Rhestr lawn o’r manteision i aelodau iau:
• Cyfleoedd i fod yn fasgot*
• Cyfleoedd i gario’r bêl i’r maes*
• Teithiau rhad ac am ddim o amgylch y stadiwm
• Dim ffi ychwanegol i’w thalu wrth brynu tocynnau
• Cyfle i gael blaenoriaeth wrth brynu tocynnau, drwy’r trefniant gwerthu ymlaen llaw i aelodau
• Bar i’r aelodau ar ddiwrnodau gemau*
• Gostyngiad o 10% oddi ar Wersylloedd Rygbi Cymru
• Cystadlaethau dethol
• Gostyngiad o 10% oddi ar nwyddau Undeb Rygbi Cymru
*Ceir cyfyngiadau oedran.
Prynwch eich Aelodaeth Iau flynyddol heddiw am £20 yn unig ar ein safle e-docynnau: